Ffeithiau a Ffigurau
Mae’r tîm gwybodaeth fusnes yn cynhyrchu ystod o ystadegau craidd a dynnwyd o adroddiadau statudol y Brifysgol i’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA). Rydym wedi darparu rhai ystadegau allweddol ar gyfer Prifysgol Bangor yma, wedi’u cyflwyno mewn cyfres o ddogfennau PDF: niferoedd myfyrwyr (lefel astudio, dull presenoldeb, a dadansoddiad yn ôl ysgol academaidd), proffiliau myfyrwyr (rhywedd, anabledd, lle maent yn byw, ac ethnigrwydd), Data cyfrwng Cymraeg (Gallu iaith Gymraeg a baich dysgu Cymraeg), dosbarthiad gradd (dosbarth gradd israddedig a ddyfarnwyd), dal gafael ar fyfyrwyr (dal gafael ar fyfyrwyr yn ystod y flwyddyn), a staff (nifer y staff, CALl, grwpiau galwedigaethol academaidd ac anacademaidd, rhywedd a dull cyflogaeth).
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr ystadegau hyn neu geisiadau ystadegau ad-hoc eraill, cysylltwch ag Andrea Jones (a.jones@bangor.ac.uk) neu Wendy Evans (w.evans@bangor.ac.uk) yn y tîm gwybodaeth fusnes.