Rheoli Iechyd a Diogelwch
Rheoli Systemau Tân ac Argyfwng
Mae PaCS yn gyfrifol am gynnal a rheoli adeiladwaith a gwasanaethau pob adeilad di-breswyl y mae'r Brifysgol yn berchen arno neu'n ei lesio neu'n ei rentu (onid oes trefniadau eraill wedi eu gwneud trwy brydles neu gytundebau eraill). Yn ogystal â chynnwys tân mewn asesiadau risg cyffredinol ar gyfer yr adeiladau y mae PaCS yn eu meddiannu e.e. Ffriddoedd, bydd PaCS yn trefnu i rywun/rywrai cymwys wneud Asesiadau Risg Tân (BFRA) o holl adeiladau'r Brifysgol.
Rheoli Eiddo Gwag a Bregus
Mae PaCS wedi penodi rhywrai cyfrifol i sicrhau bod rheolyddion digonol ar waith bob amser i ddiogelu pobl ac eiddo rhag risgiau sylweddol sy'n gysylltiedig ag Eiddo Gwag a Bregus (VVP).
Mae PaCS wedi rhoi system reoli ar waith i fonitro cyflwr pob Eiddo Gwag, sy'n cynnwys:
- Rhestr o'r holl eiddo sydd ar Planon; mae'r rhestr hon yn cael ei chadw gan Reolwr Diogelwch a Chydymffurfiaeth PaCS.
- Cynhelir cyfarfod ddwywaith y flwyddyn gyda gwahanol aelodau o PaCS i adolygu'r system reoli. Caiff cofnodion cyfarfodydd a chamau gweithredu eu cofnodi, eu hadolygu a'u dosbarthu i aelodau perthnasol yr uwch dîm rheoli.
- System o arolygiadau i sicrhau bod pob perygl sylweddol yn cael ei reoli ac y bydd unrhyw risg weddillol yn cael ei lleihau i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol.
Delio ag Asbestos a'i Waredu
Mae'r Brifysgol wedi rhoi'r cyfrifoldeb i PaCS reoli'r deunyddiau sy'n cynnwys asbestos (ACM) sydd o fewn adeiledd adeiladau ystâd y Brifysgol. Mae Rheolwr Diogelwch a Chydymffurfiaeth PaCS yn rhoi arweiniad a chymorth ar hyn.
Mae Cynllun Rheoli Asbestos y Brifysgol yn disgrifio dull y Brifysgol o reoli asbestos. Rheolir y Gofrestr Asbestos Electronig (Planon) gan y Rheolwr Diogelwch a Chydymffurfiaeth ar ran PaCS.
Mae pob croeso i chi gysylltu â'r Ddesg Gymorth i gael gwybodaeth am asbestos. Helpdesk. Cofiwch roi digon o amser i'r wybodaeth gael ei chasglu oherwydd bod angen i labordy allanol ddadansoddi'r samplau, ac mae hyn yn cymryd o leiaf bum diwrnod gwaith. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r Rheolwr Diogelwch a Chydymffurfiaeth ar est. 3607.
Rheoli Iechyd, Diogelwch a Rheolaeth Amgylcheddol
Rydym yn hynod falch o'n hamgylchedd ac ym Mhrifysgol Bangor, rydym wedi ymroi'n i'w amddiffyn a'i wella. Mae hyn yn golygu ein bod yn ystyried yr effaith y gall popeth yr ydym yn ei wneud ei gael, ac o safbwynt amgylcheddol, yn ystyried a allwn wneud rhywbeth yn well. Gydag ystâd o dros 200 o adeiladau wedi eu lleoli ar draws 346 hectar, yn ogystal â 10,000 o fyfyrwyr a 2,000 o staff, rydyn ni'n cydnabod oblygiadau ein heffaith ar yr amgylchedd.
Gwaith y Grŵp Tasg Cynaliadwyedd yw goruchwylio'r dasg o ddatblygu a gweithredu Agenda Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor, ac am adrodd i'r Pwyllgor Gweithredu. Cyflawnir Camau Gweithredu Penodol trwy'r Grŵp Gweithredu Cynaliadwyedd aml-swyddogaeth, a gefnogir trwy fewnbwn gan y MelinauDrafod Cynaliadwyedd, sydd yn cynnwys cynrychiolwyr o boblogaeth ehangach y Brifysgol. Mwy gwbodaeth...