Cyllid ar gyfer astudiaethau
Os byddwch yn astudio o leiaf 40 credyd y flwyddyn o'ch gradd gyntaf drwy gyfrwng y Gymraeg, gellwch wneud cais am yr ysgoloriaethau canlynol:
Bwrsariaeth Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn awtomatig yn rhoi £250 y flwyddyn i fyfyrwyr sy'n astudio 40 credyd neu fwy (y flwyddyn) drwy gyfrwng y Gymraeg.
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Cynigir Ysgoloriaethau Ysgogol y Coleg ar gyfer cyrsiau gradd lle mae o leiaf 120 credyd (40 y flwyddyn) ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Prif Ysgoloriaethau'r Coleg ar gyfer cyrsiau gradd lle mae o leiaf 240 credyd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r prif ysgoloriaethau'n werth £3000 dros dair blynedd.