Newyddion: Gorffennaf 2019
Gwella Dygnwch! Mae niwro-adborth EEG yn gwella perfformiad beicio
Mae Francesca Mottola, ymchwilydd PhD o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor, wedi ennill yr ail wobr yng ngwobrau Ymchwilwyr Ifanc yng Nghyngres Ryngwladol FEPSAC am ei gwaith arloesol ar berfformiad niwro-adborth ac ymarfer corff.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2019
Dadorchuddio Sêr Cwpan y Byd Nesaf Lloegr
Tra bo llwyddiant diweddar cricedwyr Lloegr yng Nghwpan y Byd yn dal yn fyw yn y cof, mae ymdrechion i baratoi'r genhedlaeth nesaf o gricedwyr eisoes ar y gweill ym Mhrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2019
Jessica yn trosi ei hangerdd dros chwaraeon yn ymchwil rygbi
Mae myfyrwraig a ymgeisiodd i astudio ym Mhrifysgol Bangor drwy wasanaeth UCAS Extra, a hynny ar ôl newid ei dewis faes astudio, yn graddio heddiw gydag anrhydedd Dosbarth Cyntaf.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2019
Ydych chi'n defnyddio 'hunan-siarad' yn rhan o'ch hyfforddiant chwaraeon dygnwch? Dyma'r hyn y mae angen i chi ei wybod
Mae ymchwil newydd yn awgrymu sut y gallwch chi ennill y blaen ar y rhai sy’n cystadlu yn eich erbyn mewn chwaraeon dygnwch
Mae'n debyg eich bod wedi dal eich hun rywdro yn rhoi anogaeth i chi eich hun o dan eich gwynt, wrth wynebu her gorfforol arbennig o anodd efallai, neu pan oeddech chi dan ryw fath o straen; “Ty'd 'laen, fedri di 'neud hyn!” neu “Dwi'n gw'bod y medra i 'neud hyn!”
Mae seicolegwyr chwaraeon wedi darganfod bod siarad â chi eich hun yn yr ail berson: “Ti angen gwneud coblyn o ymdrech rŵan!”, mewn gwirionedd yn fwy effeithiol na siarad â chi eich hun yn y person cyntaf, “Dwi angen gwneud coblyn o ymdrech rŵan!”
Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2019