Rhagolwg
Rwy’n Athro Ieithyddiaeth a Chyfarwyddwr Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig yng Ngholeg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas. Mae fy mhrif ffocws ar ddadansoddi disgwrs, a ddefnyddir yn benodol i ddeall sut mae pobl yn meddwl. Rwy’n awdur “Cognitive Discourse Analysis: An Introduction” (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2020) a “Space, Time, and the Use of Language” (Mouton de Gruyter, 2007). Rwy’n gyd-olygydd tri llyfr ar gynrychiolaeth ieithyddol a deialog, ac wedi cyhoeddi dros 50 o erthyglau mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid ym meysydd iaith, gwybyddiaeth a chyfathrebu. Yn y blynyddoedd diweddar mae fy sylw wedi symud oddi wrth ofod (deall lleoliadau gofodol a chysylltiadau) i le (cysylltiadau ystyrlon â gofodau), yn enwedig mewn perthynas â newid hinsawdd.
Rwyf bob amser wedi mwynhau cydweithio rhyngddisgyblaethol a rhyngwladol, o fewn meysydd gwybyddol neu wyddor cymdeithas a thu hwnt. Ar hyn o bryd rwy'n gysylltiedig â SellSTEM, rhwydwaith rhyngwladol o ymchwil cydweithredol a arweinir gan Ddulyn, ac mewn nifer o wahanol gynlluniau a phrojectau ledled Cymru sy’n rhoi sylw i safbwyntiau pobl, ac ymgysylltu â phryderon ynglŷn â’r amgylchedd. Ym Mangor, sefydlais y Ganolfan Ymchwil Lleoliadau Newid Hinsawdd lle rwyf yn Gyfarwyddwr erbyn hyn, sef rhwydwaith rhyngddisgyblaethol helaeth o ymchwilwyr sy'n mynd i'r afael ag agweddau seiliedig ar le mewn perthynas â bygythiadau, mesurau lliniaru ac ymgysylltu â'r newid yn yr hinsawdd. Rwyf hefyd yn cyd-arwain y rhwydwaith newydd WISERD ar gyfer Cymru gyfan: Ymatebion Newid Hinsawdd yn Seiliedig ar Le (PATCCh).
Gwybodaeth Cyswllt
Cyfarwyddwr Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig mewn Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas
Email: t.tenbrink@bangor.ac.uk
Phone: +44 (0)1248 38 2263
Location:
Ystafell 306, 37-41 Ffordd y Coleg,
Bangor, Gwynedd LL57 2DG, UK
Cymwysterau
- DPhil: Localising objects and events: Discoursal applicability conditions for spatiotemporal expressions in English and German
Bremen University, 2005
Addysgu ac Arolygiaeth
Rwyf wedi addysgu modiwlau mewn nifer o feysydd Ieithyddiaeth a Gwyddorau Gwybyddol.
Ym maes Ieithyddiaeth, mae fy mhrif ffocws addysgu ar hyn o bryd yn ymwneud â methodoleg, yn benodol o ran defnyddio iaith ond hefyd yn rhychwantu meysydd eraill. Mae hyn yn cynnwys Dadansoddi Disgwrs, Dadansoddiad Disgwrs Gwybyddol (Cognitive Discourse Analysis), Dulliau Ymchwil mewn Ieithyddiaeth, ac Iaith a Chyfathrebu. Mae fy addysgu yn ymdrin â meysydd sylfaenol mewn Ieithyddiaeth (e.e., yn Sylfeini Ieithyddiaeth) ond mae hefyd yn tynnu ar fewnwelediadau ehangach o Wyddoniaeth Wybyddol.
Rwy'n hapus i oruchwylio prosiectau ôl-radd ym mhob un o'r meysydd uchod, yn enwedig y rhai sy'n defnyddio dadansoddiad disgwrs a/neu sy'n gysylltiedig ag ymlyniad lle, newid hinsawdd, ieithyddiaeth wybyddol, cyfathrebu, gramadeg swyddogaethol, a mwy - cysylltwch â mi i drafod!
Diddordebau Ymchwil
Mae gennyf ddiddordeb yn y ffordd rydym yn defnyddio iaith, ac yn beth mae hyn yn ei ddweud wrthym am ein meddyliau (cysyniadau a phrosesau meddwl). At y diben hwn, datblygais ddull empirig, Cognitive Discourse Analysis (CODA: Tenbrink, 2015, a 2020, Cambridge University Press). Yn nodweddiadol mae hyn yn golygu rhoi tasg benodol i siaradwyr, lle maent yn mynegi eu meddyliau rhywsut, ac yn cofnodi'r hyn maent yn ei ddweud gan ymateb. Yna dadansoddir y data ieithyddol trwy edrych yn fanwl ar sut y defnyddir iaith i fynegi meddyliau. Gall mewnwelediadau fod yn gysylltiedig ag ymchwil flaenorol ar sut mae iaith yn cysylltu â meddwl - er enghraifft o ieithyddiaeth wybyddol ddamcaniaethol neu feysydd cysylltiedig eraill.
Mae llawer o fy ymchwil wedi canolbwyntio ar sut rydym yn deall ac yn siarad am ein hamgylcheddau gofodol, er enghraifft pan rydym yn ceisio dod o hyd i'n ffordd i gyrchfan, neu egluro sut i ddod o hyd i swyddfa mewn adeilad cymhleth. Yn fwy diweddar mae fy ffocws wedi troi at syniadau am le (yn hytrach na gofod): sut rydym yn mynegi mewn iaith beth mae lleoedd yn ei olygu i ni, sut maen nhw'n berthnasol i ni, ac ym mha ffyrdd y gallai hyn gael ei effeithio gan effeithiau (neu lliniaru yn erbyn) newid hinsawdd?
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i fy ngwefan, knirb.net.
Cyfleoedd Project Ôl-radd
Rwy'n croesawu ymholiadau gan fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn dilyn PhD sy'n gysylltiedig â dadansoddi disgwrs gwybyddol a chyfathrebu.
Grantiau a Projectau Eraill
EU Project: Enhancing spatial ability to help close the gender gap in STEM Press release
Consortium member of EU project 956124: SellSTEM, EU H2020-MSCA-ITN-2020 Consortium initiated by Dr. Gavin Duffy, Dublin. Title: Spatial thinking in STEM learning: Training a new generation of researchers to increase enrolment and gender balance in STEM learning by addressing deficits in spatial ability among children in Europe. Duration: January 2021 - December 2024.