Myfyrwyr Newydd
Prawf Adnabyddiaeth
Prawf Adnabyddiaeth – dogfennau derbyniol
Mae dau gam i’w cwblhau cyn i chi gael eich cofrestru’n ffurfiol fel Myfyriwr Prifysgol Bangor. Y cam cyntaf yw’r broses gofrestru ar-lein ac yna ar gyfer cam dau, rhaid i chi ddarparu prawf o’ch hunaniaeth i’r Brifysgol. Ar ôl cwblhau’r ddau gam hyn yn llwyddiannus byddwch yn derbyn eich cerdyn Adnabod Myfyriwr ac yn cael eich cofrestru’n ffurfiol. Peidiwch ag anfon y dogfennau hyn atom, ond cofiwch eu paratoi ar gyfer amser eich apwyntiad. Bydd angen i fyfyrwyr rhyngwladol ddarparu’r dogfennau a restrir yn Adran A. Bydd angen i fyfyrwyr o Brydain a’r UE ddarparu naill ai un ddogfen o Adran B neu ddwy ddogfen o Adran C. Sylwer bod angen i fyfyrwyr nad yw eu cyrsiau wedi’u lleoli ym Mangor (e.e. dysgwyr o bell a rhai myfyrwyr rhan-amser) uwchlwytho copïau o’r dogfennau perthnasol fel rhan o’r broses gofrestru ar-lein.
Defnyddiwch eich enw defnyddiwr Prifysgol Bangor er mwyn gwneud yr apwyntiad os gwelwch yn dda.
Sylwch nad oes angen i’r myfyrwyr hynny sy’n parhau ar eu cwrs cyfredol wneud apwyntiad i gael gwiriad ID.
Os ydych wedi graddio ym Mangor, a’ch bod yn cychwyn ar gwrs newydd ym mis Medi, mae angen i chi gwblhau gwiriad ID ar-lein.
Gall myfyrwyr o’r DU a’r UE wneud apwyntiad ar gyfer gwiriad ID ar-lein yma:
Adran A
Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol llawn-amser
Mae’n rhaid i chi ddarparu’r canlynol:
- Pasbort
- Vignette Clirio Mynediad a Thrwydded Breswyl Fiometrig
- Fisa Ymweld Myfyrwyr (i fyfyrwyr ar gyrsiau 6 mis neu lai e.e. Myfyrwyr Cyfnewid)
Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol rhan-amser/rhyngwladol dysgu-o-bell
- Pasbort new Cerdyn Adnabod Genedlaethol
Adran B
Myfyrwyr o’r DU/UE
- Mae’n rhaid i chi ddarparu un o’r canlynol neu ddwy ddogfen o Adran C isod:
- Pasbort / Cerdyn Adnabod Cenedlaethol o’r UE / Cerdyn Adnabod Cenedlaethol o’r AEE / Y Swisdir
- Trwydded Yrru’r DU gyda llun arni (yn cynnwys un dros-dro)
Adran C
Rhaid i UN o’r dogfennau hyn gynnwys eich enw a chyfeiriad llawn (a gaiff ei wirio yn erbyn eich cyfeiriad sydd ar system cofnodion myfyrwyr y brifysgol)
- Cerdyn Credyd neu Gerdyn Debyd Cyfredol
- Trwydded Yrru Lawn (heb lun)
- Tystysgrif Geni/Mabwysiadu Wreiddiol
- Tystysgrif Priodas / Partneriaeth Sifil
- Cerdyn Yswiriant Gwladol
- Cerdyn Adnabod Lluoedd Ei Mawrhydi
Rhaid i’r canlynol fod wedi’u darparu o fewn y 12 mis diwethaf
- Datganiad Cerdyn Credyd
- Bil Gwasanaeth
- Datganiad Morgais
- Datganiad Treth Cyngor
- Dogfennau Swyddfa Gartref
- Dogfennau Cyllid y Wlad
- Datganiad Budd-dâl (e.e. Budd-dâl Plant, pensiwn etc)
- Gohebiaeth gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr neu Awdurdod Lleol