Holl Newyddion A–Y
Newyddlenau
'Earth Day' 2020
Mae ‘Earth Day’ yn dathlu ei phen blwydd yn 50 heddiw. Bydd unigolion a sefydliadau o bob rhan o'r byd yn dathlu ‘Earth Day’ yn flynyddol ar 22 Ebrill, gan gymryd rhan mewn digwyddiadau i greu amgylchedd iachach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ebrill 2020
Bangor yn y 10 uchaf yng nghynghrair gwyrdd byd-eang
Mae Prifysgol Bangor yn ymddangos yn y ddegfed safle yn y byd am ei ymrwymiad i gynaliadwyedd yn ôl tabl cynghrair rhyngwladol o sefydliadau sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. Mae’r Brifysgol yn un o bedair prifysgol ym Mhrydain sydd yn ymddangos yn neg uchaf UI Green Metric , tabl cynghrair o brifysgolion gwyrddaf y byd.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Rhagfyr 2019
Bangor yn y 10 uchaf yng nghynghrair gwyrdd byd-eang
Mae Prifysgol Bangor yn ymddangos yn yr wythfed safle yn y byd am ei ymrwymiad i gynaliadwyedd yn ôl tabl cynghrair rhyngwladol o sefydliadau sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. Mae’r Brifysgol yn un o bedair prifysgol ym Mhrydain sydd yn ymddangos yn neg uchaf UI Green Metric , tabl cynghrair o brifysgolion gwyrddaf y byd.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ionawr 2019
Dyfodol gwell ar y gweill
Blog gan Dr Einir Young (Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd)
Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2019
Pob Can yn Cyfri ym Mhrifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor am wella cyfleusterau ailgylchu ar gyfer yr 11,000 o fyfyrwyr a 2,000 o aelodau staff drwy ymuno â “ Pob Can yn Cyfri ”. Cyflwynodd y Brifysgol finiau ailgylchu ‘Pob Can yn Cyfri’ mewn wyth lleoliad, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr a staff ailgylchu caniau diod tra eu bod ‘ar fynd’.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2019
Prifysgol Bangor yn cynnig danteithion Masnach Deg
Mae Prifysgol Bangor yn dathlu Pythefnos Masnach Deg eto eleni. Yn wythfed ymysg prifysgolion y byd yn y Gynghrair Prifysgolion Gwyrdd oherwydd ei hymrwymiad i gynaliadwyedd, mae’r brifysgol yn awyddus bob amser i annog staff a myfyrwyr i feddwl am sut i wella’n barhaus ymrwymiad y sefydliad i gynaliadwyedd. Dyna pam fod amrywiaeth o weithgareddau’n cael eu hybu i annog staff a myfyrwyr i gymryd rhan mewn Pythefnos Masnach Deg o heddiw tan 10 Mawrth.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2019
Prifysgol Bangor yn ennill tair gwobr yn y National Student Housing Awards
Adnoddau rhyngrwyd ac ailgylchu yn rhoi Prifysgol Bangor ar y blaen yn y National Student Housing Awards Mae Prifysgol Bangor wedi ennill gwobr am y rheolaeth amgylcheddol orau a'r rhyngrwyd gorau i fyfyrwyr yn y National Student Housing Awards . Mae'r gwobrau'n gyfan gwbl seiliedig ar adborth gan ddegau o filoedd o fyfyrwyr yn y DU i arolwg a luniwyd gan Red Brick Research .
Dyddiad cyhoeddi: 20 Medi 2018
Prifysgol gynaliadwy o'r radd flaenaf
Mae Prifysgol Bangor wedi ennill 'Anrhydedd Dosbarth Cyntaf' am ei chryfderau o ran cynaliadwyedd gan People & Planet , y rhwydwaith mwyaf i fyfyrwyr yn y DU sy'n ymgyrchu dros gyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol. Dim ond 29 o'r 154 o brifysgolion yn y DU sy'n cael eu rhoi yn y categori hwn.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2019
Prifysgol yn y Dosbarth Cyntaf am Gynaladwyedd
Gosodwyd Prifysgol Bangor ymhlith 30 prifysgol ym Mhrydain sydd wedi eu dynodi fel bod o safon ‘Gradd er Anrhydedd Dosbarth Cyntaf’ am eu gweithgareddau cynaladwyedd. Mae’r tabl diweddaraf yn gweld y Brifysgol yn codi naw lle ac yn symud o gategori ‘2:1’ at ‘Radd Dosbarth Cyntaf’. Llwyddodd y Brifysgol i gyflawni ei sgôr uchaf erioed, gyda chynnydd o bron i 8.5% ar y ffigwr blaenorol, a llwyddo hefyd i ennill sgôr o 100% yn achos pedwar categori o blith y 13 cyfan. Mae’r gynghrair prifysgolion yn cael ei llunio gan People & Planet , a hon yw’r unig gynghrair annibynnol wedi ei neilltuo ar gyfer cynaladwyedd ym mhrifysgolion cyhoeddus Prydain. Fe’i llunnir ar sail ystod eang o feini prawf amgylcheddol, cymdeithasol a chynaladwyedd cyllidol.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Tachwedd 2017
Wythnos Am Wastraff #WAW18
Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd Prifysgol Bangor ei ail ‘Wythnos Am Wastraff ‘(WAW) erioed rhwng dydd Sadwrn 29ain Medi a dydd Gwener 5ed Hydref 2018. Lansiwyd yr ymgyrch i rannu syniadau a chodi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd defnyddio adnoddau yn effeithlon yn y Brifysgol ac yn Ninas Bangor, fel ein bod yn gallu lleihau ein heffeithiau amgylcheddol yn lleol ac yn genedlaethol ac i annogein myfyrwyr i fod yn ddinasyddion byd-eang cyfrifol. Gweithiodd y Lab Cynaliadwyedd mewn partneriaeth â Champws Byw , Neuaddau Preswyl , Tai Myfyrwyr , Arlwyo , y Swyddfa Ryngwladol , Cyngor Gwynedd , Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff (CIWM) a British Heart Foundation Cymru (BHF) i redeg ystod o weithgareddau a digwyddiadau cyffrous yn ystod yr wythnos WAW. Roedd y rhain yn cynnwys digwyddiad glanhau’r traeth, ymweliadau ymwybyddiaeth gwastraff mewn neuaddau myfyrwyr a lletyai preifat, sgyrsiau gyrfaoedd gwastraff, digwyddiad glanhau campws, diwrnod rhannu gwybodaeth, cwisiau ailgylchu, noson ddadlau, noson ffilm a noson crefftau eco, ynghyd a digwyddiadau eraill llai i rannu syniadau
Dyddiad cyhoeddi: 12 Hydref 2018
Wythnos Ar Wastraff #WAW19
Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2019
Y Brifysgol yn arwyddo ymrwymiad byd-eang i ddod â llygredd plastig i ben
Fel rhan o'i hymrwymiad parhaus i gynaliadwyedd, mae Prifysgol Bangor yn un o lofnodwyr Ymrwymiad Byd-eang Economi Plastigau Newydd, dan arweiniad Sefydliad Ellen MacArthur, mewn cydweithrediad ag adran Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig a gafodd ei lansio yn y Gynhadledd ‘Ein Cefnfor’ Our Ocean (Ddydd Llun 29 Tachwedd 2018). Mae Prifysgol Bangor yn un o 40 o brifysgolion byd-eang i ymrwymo yn y fath fodd.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2018
Y Brifysgol yn arwyddo ymrwymiad byd-eang i ddod â llygredd plastig i ben.
Fel rhan o'i hymrwymiad parhaus i gynaliadwyedd, mae Prifysgol Bangor yn un o lofnodwyr Ymrwymiad Byd-eang Economi Plastigau Newydd, dan arweiniad Sefydliad Ellen MacArthur , mewn cydweithrediad ag adran Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig a gafodd ei lansio yn y Gynhadledd ‘Ein Cefnfor’ Our Ocean (Ddydd Llun 29 Tachwedd 2018). Mae Prifysgol Bangor yn un o 40 o brifysgolion byd-eang i ymrwymo yn y fath fodd.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Hydref 2018
Y brifysgol wedi ei rhestru ymhlith 70 o sefydliadau ledled y byd sy'n gweithio tuag at Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig
Heddiw (22 Ebrill 2020) mae Prifysgol Bangor wedi'i rhestru ymhlith 70 o brifysgolion ledled y byd sy'n gweithio tuag at Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Mae hyn yn gydnabyddiaeth o bwys i'r sefydliad o Ogledd Cymru sy'n gweithio tuag at fod yn 'Brifysgol Gynaliadwy'. Y brifysgol yw'r unig sefydliad o Gymru ar y rhestr, ac mae ymhlith 15 o brifysgolion eraill o'r Deyrnas Unedig sydd yn y 70 uchaf. Y Brifysgol yw’r unig sefydliad o Gymru i'w chynnwys o blith y 15 o’r DU yn 70 sydd ymysg y 70 uchaf yn y byd, sef categori’r Cynghrair effaith ei hun.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ebrill 2020
Y dewis gwyrdd
Mae nifer gynyddol o bobl ifanc yn awyddus i leihau eu hôl troed amgylcheddol, a gall y fyfyrwyr hynny sy’n chwilio am brifysgol werdd fod yn sicr eu bod yn astudio mewn prifysgol sydd ar y brig yn fyd eang yn ei hymrwymiad i ailgylchu a chynaladwyedd , drwy ddewis astudio ym Mhrifysgol Bangor. Mae Prifysgol Bangor yn seithfed yn y byd am ailgylchu a chynaliadwyedd, yn ôl llinyn mesur Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, ac mae’r coleg ar y bryn yn 10fed yn fyd eang am ei gwaith yn ôl y Green Metric World University Rankings .
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mehefin 2020
Ymgyrch Ail-Ddefnyddio Diwedd Tymor
Mae Prifysgol Bangor yn ymdrechu i fod y Brifysgol fwyaf effeithlon o ran adnoddau; yn wir roeddem yn 7fed yn y byd yng nghyngrair THE impact 2020 am ein hymrwymiad i nôd 12 ‘sicrhau cynhyrchu a defnyddio cynaliadwy.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2020
Ynni adnewyddadwy i Brifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi bod 100% o’r trydan a ddefnyddir gan y Brifysgol bellach yn cael ei gyflenwi o ffynonellau adnewyddadwy gwarantedig.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2019
‘The future of our oceans’ - darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor gan wyddonydd amlwg
Dyfodol ein cefnforoedd fydd yn cael sylw mewn darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor ddydd Mercher, 4 Mawrth . Y siaradwr fydd Jacqueline McGlade, Athro Gwytnwch a Datblygu Cynaliadwy yng Ngholeg Prifysgol Llundain, a Chymrawd er Anrhydedd o Brifysgol Bangor. Bydd y ddarlith yn cael ei chynnal am 5.30pm yn Narlithfa Eric Sunderland, Prif Adeilad y Celfyddydau . Mae mynediad am ddim, ac nid oes angen tocynnau. Mae croeso i bawb.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Chwefror 2020