
Symud i mewn i Neuaddau - Ionawr 2022
Eleni byddwn yn gwneud pethau ychydig yn wahanol, i sicrhau y gallwn eich symud i mewn yn ddiogel ac yn gyffyrddus.
Bydd y broses a chyfnod symud i mewn yn seiliedig ar ganllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru ar y pryd, gall y rhain fod yn wahanol i’ch wlad wreiddiol.
Bydd Swyddfa'r Neuaddau yn anfon e-bost atoch gyda'r broses i'w dilyn unwaith y bydd hyn wedi'i gadarnhau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio'ch e-byst am wybodaeth bellach.
Mwy o wybodaeth am symud i mewn
- Bydd y Swyddfa Neuaddau mewn cysylltiad yn fuan gyda mwy o wybodaeth am beth sydd angen i chi ei wneud cyn cyrraedd Bangor.
- Cewch eich cyfeirio at raglen gynefino ar-lein sy'n hanfodol i'w gwblhau cyn i chi gyrraedd.
- Unwaith yr ydych wedi cwblhau'r rhaglen gynefino gallwch brintio neu gadw cofnod o'ch Tocyn Cyrraedd, sydd ei angen arnoch i nôl eich allweddi.
- Yn dibynnu ar eich gwlad wreiddiol a'ch statws brechu, efallai y bydd gofyn i chi ymgymryd â chyfnod o gwarantîn teithio yn eich llety.
- Os yw hyn yn wir, mae'n bwysig iawn eich bod yn llenwi'r ffurflen cyrraedd y byddwn yn ei hanfon atoch, fel y gallwn ddarparu'r cyfan sydd ei angen arnoch ar gyfer y cyfnod hwn.
Campws Wrecsam
- Ffoniwch y swyddfa ar 01978 265799 i drefnu eich diwrnod ac amser cyrraedd.
- Sylwch fod gan y maes parcio lleoedd cyfyngedig. Cyn gynted ag y byddwch wedi dadlwytho, symudwch eich cerbyd i'r maes parcio cyhoeddus ychydig funudau o'r Neuadd.
- Os na allwch gyrraedd ar y diwrnod o fewn eich slot amser dynodedig, rhowch wybod i'r staff ar 01248 265799. Neu fel arall e-bostiwch Snowdon.hall@studentroost.co.uk
Yswiriant
Mae’r Brifysgol wedi trefnu yswiriant cynnwys sylfaenol gan ‘Endsleigh Insurance’ ar gyfer myfyrwyr sy’n byw mewn neuadd breswyl. Mae'r yswiriant yma yn gwarchod eitemau yn eich ystafell yn erbyn lladrad, tân, llifogydd. I weld beth sydd yn cael ei gynnwys, llawrlwythwch eich tystysgrif yswiriant.
Nid yw gliniaduron, tabledi a ffonau wedi eu hyswirio y tu allan i'ch ystafell, felly mae'n bosib hoffech gymryd yswiriant pellach. Mae Endsleigh yn cynnig pecynnau i wneud hyn a chewch fwy o fanylion yma: www.endsleigh.co.uk/student/student-insurance/.
RHANNWCH Y DUDALEN HON: