Cofrestru
Mae cofrestru ar-lein yn gam gorfodol sy'n datgloi eich e-bost myfyriwr, amserlen, a phopeth arall sydd ei angen arnoch. Byddwch yn derbyn e-bost gyda dolen a chyfarwyddiadau i'w gwblhau. Ceisiwch ei wneud cyn gynted â phosib, ond peidiwch â phoeni os na allwch wneud hynny ar unwaith. Pan fyddwch wedi ei gwblhau, yna cewch fynediad i holl systemau'r Brifysgol.
Byddwch yn derbyn e-bost gyda dolen ar gyfer cofrestru ar-lein, ac fe fydd hyn yn cynnwys eich enw defnyddiwr Prifysgol Bangor. Dyma hefyd eich cyfeiriad e-bost, sydd fel arfer yn y fformat ABC25XXX@bangor.ac.uk. Bydd eich cyfrif yn dod yn weithredol yn llawn unwaith y byddwch wedi cwblhau'r broses cofrestru ar-lein.
Na. Dylid cwblhau cofrestru ar-lein cyn i chi gyrraedd. Pan fyddwch yn symud i'ch llety, byddwch yn cwblhau gwiriad ID wyneb yn wyneb ac yn casglu eich cerdyn adnabod myfyriwr. Dyma'r rhan olaf o'r broses gofrestru. Os nad ydych yn byw mewn neuaddau prifysgol, gallwch wneud hyn mewn man cofrestru dynodedig ar y campws yn ystod Wythnos Groeso.
Amserlenni A Modiwlau
Bydd amserlenni ar gael o 10 Medi 2025. Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r broses o gofrestru ar-lein ac wedi dewis eich modiwlau, bydd yn cymryd tua 72 awr i'ch amserlen bersonol ddiweddaru.
Gallwch weld eich amserlen ar wefan y fewnrwyd, Fy Mangor ac ar Ap Bangor.
Os yw wedi bod yn fwy na 72 awr ers ychwanegu eich modiwlau ac nad ydych yn gallu gweld eich amserlen, cysylltwch â'r Tîm Amserlennu am gymorth.
Wythnos Groeso
Mae rhai sesiynau yn orfodol, fel Cyflwyniad eich Ysgol. Mae eraill yn weithgareddau cymdeithasol dewisol. Mae'n syniad da mynychu cymaint ag y gallwch i gwrdd â phobl ac i ddod i adnabod y campws, ond peidiwch â phoeni os na allwch fynychu popeth.
Bydd! Bydd gennych sesiynau penodol ar gyfer eich cwrs a'ch Ysgol. Mae hefyd amserlen lawn o ddigwyddiadau cymdeithasol, gan gynnwys Serendipedd, Ffair i Fyfyrwyr Newydd, Undeb y Myfyrwyr.
Gofynnwch! Rydym yma i'ch helpu bob cam o'r ffordd.
Bydd ein Sgwrs Fyw ar gael ar yr amseroedd canlynol tan 19 Medi ar bob un o dudalennau Wythnos Groeso:
- Dydd Llun 2am–4pm
- Dydd Mawrth 10am–12pm
- Dydd Mercher 2pm–4pm
- Dydd Iau 10am–12pm
- Dydd Gwener 2am–4pm