Bwyd, diod a siopa!
Mae gennym nifer o lefydd i fwyta sy’n cynnig amrywiaeth o fwyd i weddu bob dewis dietegol.
Ewch i Lleoedd i Fwyta, Yfed a Siopa i ddarganfod mwy am ein caffis, bar a bwyty. Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol i wneud yn siŵr nad ydych yn colli allan ar ein bargenion wythnos croeso!
Mae ein siopau ar safle’r Ffriddoedd a Santes Fair yn golygu na fydd yn rhaid i chi fynd yn bell ar gyfer eich hanfodion dyddiol. Cewch hyd i nwyddau a dillad brand y Brifysgol yn siop Ffriddoedd - felly p'un a ydych chi'n chwilio am hwdi clyd neu botel ddŵr i'r gampfa, mae gennym y cwbl.
Coronafeirws: Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i'ch cadw'n ddiogel ac wedi rhoi nifer o fesurau ar waith i sicrhau y gallwch fod yn hyderus wrth fwyta yn ein llefydd bwyd.