Atal Troseddau
Er bod Gogledd Cymru yn lle diogel i fyw ac astudio, mae yna bethau y gallwch eu gwneud bob amser i leihau unrhyw siawns o ddioddef o ganlyniad i drosedd.
Mae Prifysgol Bangor yn gweithio'n agos gyda'r heddlu lleol, Heddlu Gogledd Cymru, i sicrhau bod myfyrwyr sy'n cael eu heffeithio gan unrhyw fath o drosedd yn gallu cael help a chyngor. Mae Heddlu Gogledd Cymru yn rhoi llawer o wybodaeth ddefnyddiol i ni am amrywiaeth o faterion.
O gwmpas y lle
Mae'r daflen wybodaeth hon, yn rhoi cyngor ar bethau y gallwch eu gwneud pan fyddwch o gwmpas y lle, gan gynnwys pan fyddwch ar noson allan, wrth beiriant codi arian a'r hyn y gallwch ei wneud i gadw'ch eiddo personol yn ddiogel.
Cadw eich cartref yn ddiogel
Mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn cynghori myfyrwyr i gau ffenestri a chloi drysau pan fyddant yn gadael eu hystafelloedd neu eu cartrefi a neb yno, ac mae'r daflen hon yn cynnwys gwybodaeth ar sut y gallwch gofrestru'ch eitemau personol ar immobilise.com
Diogelwch Personol
Yn olaf, mae'r daflen hon am Ddiogelwch Personol yn rhoi rhestr o 10 o bethau pwysig y gallwch eu gwneud i gadw'n ddiogel yn gyffredinol.
Cysylltu â'r Heddlu
Er ei bod yn annhebygol y byddwch yn dioddef o ganlyniad i drosedd tra'ch bod yma ym Mangor, mae'n bwysig cofio, os byddwch angen gysylltu â'r heddlu mewn argyfwng, deialwch 999. Os byddwch angen rhoi gwybod am rywbeth ac nid yw'n argyfwng, hynny yw, nid oes unrhyw risg uniongyrchol i chi neu i rywun arall, deialwch 101.
Polisi Trais Rhywiol a Domestig
Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod mewn perygl neu wedi ddioddef trais rhywiol, cam-drin domestig a/neu drais yn erbyn merched ac mae angen i chi siarad â rhywun, gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 810 800 lle gallwch siarad ag unigolyn cyfeillgar sydd wedi ei hyfforddi ac sy'n deall eich sefyllfa i gael cyngor a/neu gefnogaeth bellach.
Gall myfyrwyr sy'n cael eu heffeithio gan unrhyw fath o drais rhywiol, aflonyddu, troseddau casineb neu gam-drin hiliol hefyd siarad â'n aelod staff penodol, Helen Munro trwy e-bostio cynhwysol@bangor.ac.uk