Croeso Ffurfiol
Wrth eich croesawu i Brifysgol Bangor, hoffem gynnig rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol i chi ynghyd â chroeso 'ffurfiol' gan yr Is-ganghellor, yr Athro Iwan Davies, Swyddogion Sabothol Undeb y Myfyrwyr a rhai o'r Arweinwyr Cyfoed arbennig, a hynny i nodi carreg filltir swyddogol ar ddechrau eich profiad prifysgol.
Eleni, bydd ein croeso ffurfiol ar-lein, a chaiff y cysylltiadau i'n fideos croeso eu lansio ar 20 Medi.
Ond am y tro, cymerwch olwg ar ein tudalennau croeso. Rydym wedi llunio Llawlyfr i Wythnos Groeso 2022 gyda rhestr wirio o'r pethau hanfodol sydd i'w gwneud, yn ogystal ag awgrymiadau eraill opsiynol. Gallwch hefyd gwrdd â'r Is-ganghellor a Swyddogion Sabothol Undeb y Myfyrwyr yn ein fideos cyn cyrraedd.