Byw Gartref yn ystod eich astudiaethau?
Os ydych yn un o’r nifer o fyfyrwyr sy’n byw gartref gyda’ch teulu yn hytrach na byw mewn llety myfyrwyr ym Mangor, peidiwch â phoeni. Rydym yn gwybod bod penderfynu peidio á byw mewn llety myfyrwyr yn un o’r dewisiadau sy’n creu profiad unigol i chi fel myfyriwr yn union fel mae’r penderfyniadau y byddwch yn eu gwneud wrth ddewis modiwlau ac wrth ddewis pa glybiau a chymdeithasau i ymuno â hwy. Mae digonedd o gefnogaeth ar gael i chi a chyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau trwy gydol eich cyfnod ym Mangor.
Sgwrs Fyw gyda Myfyrwyr sy’n Byw Gartref
Er mwyn eich helpu i bontio i fywyd Prifysgol, rydym wedi trefnu digwyddiad sgwrsio ar-lein lle gallwch gwrdd â myfyrwyr newydd eraill yn ogystal â myfyrwyr a staff cyfredol. Bydd y sgwrs yn digwydd ar ddydd Mawrth, 18 Ionawr 2022 am 12.30pm. I gofrestru eich diddordeb mewn mynychu ewch i www.bangor.ac.uk/welcome/online-chat.php.cy.
Cynhelir sgwrs fyw arall ddydd Mercher 2 Chwefror am 2pm yn benodol ar gyfer myfyrwyr Gwyddorau Gofal Iechyd sy'n dechrau ar gyrsiau sy'n cael eu cyllido gan y GIG. I fynegi diddordeb mewn mynychu ewch i: www.bangor.ac.uk/welcome/online-chat.php.cy.
Rydym hefyd wedi casglu tipyn o wybodaeth ynghyd i’ch helpu i baratoi ar gyfer bywyd prifysgol. Mae’n cynnwys hanfodion defnyddiol i’ch rhoi ar ben ffordd cyn i chi ddechrau astudio, gwybodaeth am barcio, a’r holl bethau y gellwch gael mynediad atynt unwaith y byddwch yn fyfyriwr. Mae gan bob adran gyswllt at wybodaeth bellach lle gellwch ddysgu mwy.
Cael eich Traed Danoch
Efallai eich bod yn lleol i Ogledd Cymru ond mae’n bosib nad ydych yn gwybod llawer iawn am y brifysgol ei hun nac am fywyd fel myfyriwr. I gael dysgu mwy, edrychwch ar:
- Arweinwyr Cyfoed
- Parcio Ceir – sut i gael trwydded (ac osgoi dirwyon)
- Heb gofrestru eto? Edrychwch ar sut i gofrestru
- Ddim yn siŵr am gyllid myfyrwyr? I gael gwybod mwy
- Gofal Iechyd
Ymgynefino â’ch astudiaethau:
Gall camu i’r lefel astudio nesaf fod yn her felly peidiwch â bod ofn edrych ar ffyrdd o gael ychydig bach o help ar hyd y ffordd:
- Llyfrgell
- Canolfan Bedwyr
- Sgiliau Astudio
- Tiwtoriaid Personol
- Gwasanaethau Myfyrwyr – mae amrywiaeth eang o ganllawiau a chefnogaeth ar gael yno felly cymerwch olwg ar sut y gallwn eich helpu i ymgartrefu
Manteisiwch i’r eithaf ar fod yn fyfyriwr:
Mae’r brifysgol yn cynnig llawer mwy nag astudiaethau academaidd. Mae yna nifer o gyfleoedd i ehangu eich gorwelion a’ch profiadau. Edrychwch ar:
- Undeb y Myfyrwyr – clybiau, cymdeithasau a gwirfoddoli
- Gwasanaeth Cyflogadwyedd
Cliciwch ar y linc isod i glywed gan fyfyrwyr diweddar sydd wedi datblygu sgiliau busnes a chyflogadwyedd