Myfyrwyr Campws Wrecsam
Ydych chi’n fyfyriwr a fydd yn astudio un o’n cyrsiau Gwyddorau Iechyd, wedi’i leoli ar ein campws yn Wrecsam? Os ydych, dyma’r dudalen i chi.
Os ydych yn un o’n myfyrwyr ar gampws Wrecsam, hoffem eich sicrhau bod gennych fynediad i’r holl gefnogaeth a gwasanaethau sydd ar gael ar ein campws ym Mangor. Eleni, cynhelir llawer o’n gweithgareddau a digwyddiadau croesawu ar-lein, sy’n golygu nad oes angen teithio i Fangor i gymryd rhan. Felly, mae mwy o gyfleoedd nag erioed o’r blaen i chi gwrdd â myfyrwyr eraill, o’r un ysgol (ond sydd wedi eu lleoli ym Mangor) neu o’r ysgolion eraill.
I gael gwybod mwy am sut y gallwch gymryd rhan yn ein gweithgareddau Croeso 2022, ewch i’n gwefan groeso, ac os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r nodwedd sgwrsio ar dudalen hafan Croeso 2022!
Mae llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn digwydd ledled y brifysgol ar-lein ac wyneb yn wyneb, gan gynnwys digwyddiadau a gynhelir gan Undeb Bangor, eich Undeb Myfyrwyr, yn ogystal â gweithgareddau ysgol-benodol. Mae sesiynau cefnogaeth byw i’ch helpu i ymgartrefu, a chewch ragor o wybodaeth am y rhain a’r holl weithgareddau eraill ar ein tudalen ‘Beth sy ‘mlaen’.
Rydym hefyd wedi casglu tipyn o wybodaeth ynghyd i’ch helpu i baratoi ar gyfer bywyd prifysgol. Mae’n cynnwys gwybodaeth hanfodol a defnyddiol i’ch rhoi ar ben ffordd cyn i chi ddechrau astudio, a’r holl bethau y gallwch gael mynediad atynt unwaith y byddwch yn fyfyriwr. Mae gan bob adran gyswllt at wybodaeth bellach lle gallwch ddysgu mwy.
Cael eich Traed Danoch
Efallai eich bod yn lleol i Ogledd Cymru ond mae’n bosib nad ydych yn gwybod llawer iawn am y brifysgol ei hun nac am fywyd fel myfyriwr. I gael dysgu mwy, edrychwch ar:
- Arweinwyr Cyfoed
- Parcio Ceir – sut i gael trwydded (ac osgoi dirwyon)
- Heb gofrestru eto? Edrychwch ar sut i gofrestru
- Ddim yn siŵr am gyllid myfyrwyr? I gael gwybod mwy
- Gofal Iechyd
Ymgynefino â’ch astudiaethau:
Gall camu i’r lefel astudio nesaf fod yn her felly peidiwch â bod ofn edrych ar ffyrdd o gael ychydig bach o help ar hyd y ffordd:
- Llyfrgell
- Canolfan Bedwyr
- Sgiliau Astudio
- Tiwtoriaid Personol
- Gwasanaethau Myfyrwyr – mae amrywiaeth eang o ganllawiau a chefnogaeth ar gael yno felly cymerwch olwg ar sut y gallwn eich helpu i ymgartrefu
Manteisiwch i’r eithaf ar fod yn fyfyriwr:
Mae’r brifysgol yn cynnig llawer mwy nag astudiaethau academaidd. Mae yna nifer o gyfleoedd i ehangu eich gorwelion a’ch profiadau. Edrychwch ar: