Project KiVA: Addasu ac ymchwilio i raglen magu plant ar y we wedi'i seilio ar y ‘Little Parent Handbook’ fel adnodd i staff cefnogi mewn ysgolion
Sefydliad(au)
Canolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth (Prifysgol Bangor)
Dyddiad
Haf 2017
Nod
Nod y project hwn yw rhoi adnoddau hyfforddiant hyblyg i staff cefnogi mewn ysgolion sy'n gyson ag arfer gorau ym maes rheoli plant a oedd yn tarddu o dros 30 mlynedd o ymchwil gan Yr Athro Hutchings a chydweithwyr ym Mhrifysgol Bangor.
Disgrifiad
Mae nifer gynyddol o blant yn cyrraedd yr ysgol gydag anghenion ychwanegol, yn arbennig mewn cysylltiad â sgiliau cymdeithasol a rheoli emosiynau sy'n sail i gyfranogiad academaidd. Mae nifer gynyddol o staff cefnogi hefyd yn gweithio mewn ysgolion gyda'r plant hyn sydd ag anghenion arbennig canfyddadwy. Fodd bynnag, mae gan y staff hyn amrywiaeth o gefndiroedd a hyfforddiant a, gyda niferoedd cynyddol o blant yn cyflwyno sialensiau yn yr ystafell ddosbarth, mae'n bwysig bod yr holl staff sydd mewn cysylltiad â phlant yn defnyddio dull cyson o'u cefnogi. Ar hyn o bryd, ychydig o hyfforddiant sydd ar gael i staff cefnogi sy'n aml yn cael eu talu am eu hamser cyswllt gyda phlant yn unig.
Mae'r project yn cynnwys ffilmio rhyngweithio rhwng athrawon a disgyblion mewn ysgol leol/ysgolion lleol, a golygu'r ffilm i roi enghreifftiau o arfer da wrth ennyn diddordeb plant y mae'n hawdd tynnu eu sylw, rheoli ymddygiad heriol, rhoi rhybudd clir wrth newid o un weithgaredd i un arall, etc. Bydd y deunydd hwn wedyn yn cael ei roi fel atodiad i'r rhaglen magu plant sydd ar gael eisoes ar-lein, sydd edi bod yn destun myfyriwr PhD arall yn y Ganolfan Ymyrraeth Gynnar ar sail Tystiolaeth.
Fe wnaeth pennaeth Ysgol Niwbwrch, Ynys Môn gytuno i gymryd rhan, ac mae eisoes wedi cael cydsyniad rhieni i blant gael eu ffilmio. Mae hi hefyd yn bennaeth Ysgol Llangaffo ac Ysgol Dwyran, felly efallai y bydd yn bosibl cael fideo o fwy nag un ysgol, a chydag amrywiaeth o ddisgyblion o'r ardal hon sy'n ddifreintiedig yn gymdeithasol.