Prosiect rhifedd a llythrennedd drwy bêl-droed gyda Clwb Pêl-droed Porthmadog
Sefydliad(au)
Clwb Pêl-droed Porthmadog
Dyddiad
Chwefror 2017 - Mehefin 2017
Disgrifiad
Mae’r project yn cynnwys treulio 10 awr gyda phob disgybl, gyda 5 awr yn yr ystafell ddosbarth, a 5 awr o gyflwyniadau ymarferol dros gyfnod o bum wythnos. Mae gan y disgyblion wahanol dasgau i'w cwblhau bob wythnos, gyda'r nod cyffredinol o wella lefelau rhifedd drwy bêl-droed.
- Wythnos 1: Rhoddir gêm bêl-droed a ddewiswyd ymlaen llaw i'r disgyblion ei dadansoddi. Mae disgyblion yn defnyddio fideo i gasglu data gan ddefnyddio tablau amlder. Bydd disgyblion yn edrych ar elfen dactegol neu dechnegol benodol o'r gêm. Gall hyn fod yn nifer y trosglwyddiadau mae chwaraewr yn ei wneud, neu'r goliau mae saethwr yn eu sgorio. Ar ôl i'r plant gasglu eu data, maent yn cyflwyno'r data, maent yn cyflwyno'r data ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn deall y data.
- Wythnos 2: Rhoddir rhestr i bob disgybl o lle gorffennodd Porthmadog FC yn y gynghrair o dymor 2008 hyd at dymor 2017. Roedd yn rhaid i'r disgyblion gyflwyno'r data mewn graff llinell. Mae'r hyfforddwyr yna'n gofyn cwestiynau i'r disgyblion ynghylch y graff i brofi bod y disgyblion yn ei ddeall.
- Wythnos 3: Mae disgyblion yn creu eu gêm eu hunain i'w chwarae gyda'i cyd-ddisgyblion gan ddefnyddio'r gêm 'top trumps' fel sail i ymchwilio, cynllunio a chreu cardiau wedyn.
- Wythnos 4: Mae disgyblion yn gweithio mewn grwpiau ac yn derbyn 'sgwad' o chwaraewyr i'w hasesu.
- Wythnos 5: Mae disgyblion yn cael y cyfle i brofi sut mae clwb pêl-droed lled-broffesiynol yn gweithredu drwy'r ysgol yn ymweld â'r cae pêl-droed. Roedd y gweithgareddau'n cynnwys ymweld â siop y clwb i brisio eitemau, ac yna datrys problemau gyda chwestiynau am yr eitemau o'r siop.
Fe welodd elfen ymarferol y cwrs y disgyblion yn cymryd rhan yn rhaglen bêl-droed HWYL Cymdeithas Bêl-Droed Cymru. Roedd hyn yn cynnwys testun technegol gwahanol bob wythnos, fel driblo, pasio, saethu, troi a rheoli, gemau gydag ychydig bob ochr.
Gwerthuso
Hyd yma, mae'r project wedi ymwneud â 242 o ddisgyblion mewn 13 gwahanol ysgol gynradd yn ardal Gwynedd.
Mae’r ymateb yr ydym wedi ei dderbyn gan benaethiaid a disgyblion wedi bod yn gadarnhaol a chalonogol iawn. Mae'r disgyblion wedi cael cyfle i gysylltu rhywbeth maent yn ei fwynhau gydag elfennau hanfodol o'r cwricwlwm cenedlaethol. Fe welodd athrawon welliant anferthol ar ôl y project megis rheoli cyllideb, y gallu i gyflwyno data, casglu data, datrys problemau, mathemateg pen a chreu graffiau.
Fe welodd yr athrawon welliant hefyd mewn sgiliau talu sylw a gwrando ar ôl y project. Roedd hyn o ganlyniad i'r hyfforddwyr yn pwysleisio pwysigrwydd cwblhau gwaith a gwrando cyn y sesiynau pêl-droed ymarferol.
Rydym ni wedi gweld cynnydd yn nifer y disgyblion sy'n dod i'n clybiau pêl-droed yn ystod gwyliau, gyda 150 o blant yn dod yn ystod gwyliau'r Pasg dros gyfnod o bedwar niwrnod. Mae hyfforddwyr wedi gofyn i rieni wrth iddynt gofrestru ymhle y clywsant am y clwb gwyliau, a'r ateb y rhan fwyaf o'r amser oedd 'drwy fy mab/merch yn cymryd rhan yn y project rhifedd.