Profi

Sefydliad(au)
Canolfan Ehangu Mynediad / Pontio
Dyddiad
Awst 2016 – Gorffennaf 2017
Disgrifiad
- Ysgolion a gymerodd ran: Ynys Môn 5, Gwynedd 2 – 7 tîm (tynnodd un ysgol yn ôl)
- Disgyblion a gymerodd ran: 60, gostyngiad o 16%
- 62 gweithdy
- 20 Profysgwr
- 17 cyflogwr
- 3 elusen
- 2 ddigwyddiad ar raddfa fawr
Gan ystyried gwerthusiadau'r flwyddyn flaenorol, roedd y project yn ceisio rhoi amrywiaeth ehangach o gyfleoedd na fyddai'r rhai a oedd yn cymryd rhan yn Profi wedi eu cael cynt o angenrheidrwydd.
Roedd y rhaglen newydd yn cyflwyno cynllun gweithdy 12 wythnos newydd a oedd yn arbrofi ffyrdd arloesol newydd o ymdrin â thestunau megis cynllunio busnes, rhagweld cyllidol, deall manteision ymchwil a hefyd datblygu ffyrdd newydd i edrych ar gysyniadau 'sbydu syniadau' i gael y gorau allan o'r rhai a oedd yn cymryd rhan.
Roedd eitemau eraill a gyflwynwyd yn cynnwys:
- cyfle i fynd i sioe yn cynnwys cwmni o'r enw Invertigo. Cafwyd sesiwn holi wedyn i alluogi i ddisgyblion gael gwell dealltwriaeth o'r elfennau y tu ôl i'r llenni mewn cynhyrchiad – busnes, entrepreneuriaeth a'r celfyddydau.
- Gweithdy ffilmiau, a gynhelir gan gwmni lleol gyda chymorth gwirfoddolwyr o blith myfyrwyr Prifysgol Bangor, i helpu timau i wneud eu fideo cyllido torfol eu hunain
Sefydlwyd partneriaeth newydd eleni hefyd gydag Undeb y Myfyrwyr Bangor a'i changen Gwirfoddoli Myfyrwyr. Fe wnaeth hyn hi'n bosib i ni recriwtio mwy o fyfyrwyr fel hwyluswyr i'r project, ac mae hefyd wedi gwella ein gwasanaeth i'r myfyrwyr sy'n gwirfoddoli gyda'r project, gan gynnig mwy o gyfleoedd, ffordd ychwanegol o roi cefnogaeth, a rhagor o gyfleoedd hyfforddi a gynigir gan Undeb y Myfyrwyr.
Fe wnaeth Profi hefyd weithio tuag at adeiladu mwy o bartneriaethau gyda busnesau a gwasanaethau lleol eleni i gynnig ystod ehangach o gyflogwyr ac entrepreneuriaid yng ngweithdy'r wythnos cyflogadwyedd, a oedd yn llwyddiant mawr.
Gwerthuso
Eleni, mae'r gweithgareddau a'r partneriaethau ychwanegol wedi bod yn llwyddiant, gan godi gwerth y project yn fawr. Mae cynnwys mwy o weithgareddau artistig yn y project yn bendant wedi codi proffil y project, ac wedi cynyddu sgiliau a hyder ymhlith y bobl ifanc. Roedd yr adborth a dderbyniwyd gan y disgyblion yn nodi er nad oedd yr amseru ar gyfer y digwyddiadau hyn yn ddelfrydol, fe wnaeth y disgyblion a ddaeth iddynt fwynhau'n fawr, a chael profiadau a sgiliau gwerthfawr a helpodd tuag at eu briff Profi a thuag at y dyfodol. Yn ogystal â'r profiadau yr oeddem yn gallu eu cynnig i'r disgyblion, fe wnaethom ni hefyd sefydlu partneriaethau newydd gyda chwmnïau ac unigolion megis Invertigo Theatre Group, y Conker Group, Eilir Pierce a Camalz Media. Roedd Steffan Donelly o'r Invertigo Theatre Group yn teimlo bod y sesiwn holi ar ôl eu cynhyrchiad yn llwyddiant. ‘Gofynnwyd i ni gynnal sesiwn holi ar gyfer grŵp Profi Pontio ar y noson gyntaf, a oedd yn llwyddiant, ac fe ddaeth Ysgol Bodedern i'r sesiwn hefyd’.
Cynhaliwyd y rownd derfynol yn Theatr Bryn Terfel.
Mae ein partneriaeth newydd gydag Undeb y Myfyrwyr hefyd wedi bod o gymorth mawr wrth recriwtio, ac yn lefel yr hyfforddiant sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n gwirfoddoli.