Rhaglen Bright Sparks (Mae Gwyddoniaeth yn Hwyl!)
Sefydliad
Ymestyn yn Ehangach, yr Ymddiriedolaeth Datblygu Peirianneg (EDT) a Theatr Clwyd
Dyddiad
Trwy gydol 2017




Nod
Gwneud gwyddoniaeth yn hwyl, a thrwy hynny ennyn diddordeb disgyblion a chodi dyheadau. Y gobaith yw bod ymyriadau cynnar fel y rhain yn arwain i ddisgyblion fagu nod wrth iddynt fynd ymlaen at addysg uwchradd.
Disgrifiad
Gyda chymorth yr Athro Sparky ac Eric, ei nai, bydd disgyblion yn rhoi cymorth i Eric baratoi at basio ei arholiad gwyddoniaeth mewn awyrgylch hwyliog a chyfeillgar. Bydd hyn yn golygu gwneud ymchwil a chwblhau tasgau yn ogystal â chynghori Eric ar ateb ystod o gwestiynau mewn meysydd gwyddonol. Bydd y gweithgareddau'n hyrwyddo gwaith tîm yn ogystal â sgiliau cyflwyno.
Canlyniadau
Llwyddiant mwyaf y 2 sesiwn tair awr hyn mewn blynyddoedd blaenorol oedd goresgyn y rhwystr bod gwyddoniaeth yn anodd ac weithiau "mai dim ond bechgyn sy'n gwneud gwyddoniaeth". Ar ddiwedd y ddwy sesiwn, bydd gan fechgyn a merched fel ei gilydd fwy o wybodaeth am y gwahanol lwybrau y gall gwyddoniaeth eu dilyn. Gwelir cynnydd mewn dyhead a hunanhyder.