Casgliadau Arbennig Printiedig

Mae’r term Casgliadau Arbennig yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio casgliadau di-brint a phrintiedig sydd yn meddu ar nodweddion sy’n eu gwneud yn wahanol i fathau eraill o gasgliadau.

Enghraifft o gasgliad arbennig printiedig yw Casgliad Owen Pritchard. Dyma gasgliad a grewyd gan Dr Owen Pritchard rhwng 1884 a 1920 ac a gyflwynwyd yn rhodd i’r Brifysgol yn 1920. Mae’r casgliad yn cynnwys nifer o eitemau a gynhyrchwyd gan y gweisg preifat yn ystod diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a chychwyn yr ugeinfed ganrif.

Cliciwch ar y casgliadau a enwir isod am ragor o wybodaeth :

CASGLIAD ARTHURAIDD, GAN GYNNWYS CASGLIAD ARTHURAIDD SIR FFLINT, HARRIES

Mae enw da Prifysgol Bangor yn y maes astudiaethau Arthuraidd yn cael ei gydnabod ar lefel rhyngwladol. Mae wedi datblygu dros yr hanner can mlynedd diwethaf trwy waith ysgolheigion Arthuraidd blaenllaw megis Yr Athro P.J.C. Field, a Dr Raluca Radulescu. Prifysgol Bangor yw’r unig sefydliad yn y byd sydd yn cynnig MA mewn Astudiaethau Llenyddiaeth Arthuraidd, ac felly yn denu myfyrwyr o wledydd a chyfandiroedd eang - Brazil, Siapan, UDA ac Ewrop.

Yn ddiweddar, rhoddwyd casgliad Arthuraidd Llyfrgelloedd Sir y Fflint i Lyfrgell Prifysgol Bangor.  Mae’r casgliad bellach o dan ofal, cadwraeth a rheolaeth y Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau ond fe’i cyflwynwyd yn wreiddiol i Lyfrgelloedd Sir Fflint ym 1952 gan E. R. Harries, cyn Lyfrgellydd y Sir. Ychwanegwyd at y casgliad gan Wasanaethau Llyfrgell Sir y Fflint a Chlwyd. Heddiw, mae’n cynnwys dros 2,000 o eitemau o ddiddordeb i ymchwilwyr yn ogystal â darllenwyr cyffredin.  Mae’r casgliad yn ehangu casgliad presennol Bangor, ac yn ychwanegu at ein casgliad o lyfrau prin.  Bydd yr ysgolheigion a oedd gynt yn gorfod teithio i’r Wyddgrug yn ogystal â Bangor, nawr yn manteisio ar y cyfle o allu ymgynghori â’r holl adnoddau mewn un lleoliad.

Os hoffech weld y casgliad cysylltwch â: s.a.robinson@bangor.ac.uk Ffon: 01248 383276

CASGLIAD BRANGWYN

Mae casgliad Brangwyn yn cynnwys tua 250 o lyfrau a 200 o brintiadau. Mae’n cynnwys llyfrau personol Frank Brangwyn, yr arlunydd, ynghyd â phortffolio o’i weithiau, ac maent yn adlewyrchu ei ddiddordebau a’r dylanwadau arno. Mae hefyd nifer o brintiadau o weithiau arlunwyr eraill. Mae nifer fawr o’r llyfrau wedi cael eu cyflwyno i Brangwyn ac wedi cael eu llofnodi gan yr awduron. Mae hefyd bedwar gwaith gan William Brangwyn (tad Frank Brangwyn) a oedd yn ddylunydd dodrefn eglwysig. Mae’r casgliad yn rhoi golwg inni ar y byd celf yn nechrau’r ugeinfed ganrif.  

One of Frank Brangwyn's artistic works depicting men at work in a sawmill

 

CASGLIAD Y GADEIRLAN

Mae yn y casgliad dros 4,500 o lyfrau diwinyddol neu grefyddol sy’n cael eu cadw ar ran Cadeirlan Bangor, a llwyddwyd i’w derbyn er gwaethaf y ffaith ein bod yn cystadlu gyda Phrifysgolion eraill yng Nghymru. Prif nodwedd Llyfrgell y Gadeirlan yw cyfoeth y llyfrau printiedig cynnar sy’n nodedig oherwydd eu nifer. Argraffwyd 1,100 o’r llyfrau cyn 1700, ac maent yn cynnwys pedwar Incunabula, dau ddeg tri o lyfrau Llythyren Ddu, a samplau o’r gweisg cynnar enwog ar y Cyfandir.

 

 

CERDDI BANGOR

An unique collection of over two thousand eighteenth and nineteenth century Welsh ballads. A number of these ballads originated from the collection of Myrddin Fardd. The “cerdd” in Wales carried out the function of the modern newspaper for a whole century. As such, it is an invaluable tool for researchers looking into the social history of the time.

For further details consult, J.H. Davies, A Bibliography of Welsh Ballads, 1911

Due to the fragile condition of this collection, Cerddi Bangor are available for consultation on microfilm only.

Page from Cerddi Bangor featuring a poem about Gelert
CLIMBERS' CLUB

Sefydlwyd y clwb cenedlaethol yma yn 1898 a’i amcanion yw i annog mynydda a dringo, ac i hyrwyddo diddordebau cyffredinol mynyddwyr a’r awyrgylch fynyddol.
Mae  llyfrgell y Climbers’ Club yn gasgliad o lyfrau sy’n ymwneud â dringo a mynydda a gasglwyd rhwng y 1930au a’r 1950au gan aelodau’r clwb ac, yn wreiddiol, roedd ym meddiant yr Alpine Club.
Chwalwyd y casgliad yn y 1960au ond gwnaethpwyd penderfyniad i’w ail-adeiladu yn y 1970au drwy gasglu llyfrau o amryw leoliadau ar draws y wlad.
Cartrefwyd y casgliad newydd yng Nghanolfan Fynydd Genedlaethol Plas y Brenin yng Nghapel Curig, ond oherwydd rhesymau diogelwch a storio fe’i trosglwyddwyd i ofal Prifysgol Bangor yn 2012.

CASGLIAD GREGYNOG

Rydym wedi bod yn casglu llyfrau gan Wasg Gregynog ers nifer o flynyddoedd. Sefydlwyd Gwasg Gregynog yn 1922, a hi yw’r unig wasg sydd wedi goroesi o “Oes Aur” mudiad y Wasg Breifat Brydeinig. Rydym yn parhau i’w casglu heddiw. Mae gennym yn y Llyfrgell Gymraeg gopi o’u cyhoeddiad Cymraeg cyntaf, sef “Cerddi Ceiriog”, 1925. Mae gennym hefyd gopi o “Penillion Omar Khayyam”, 1928, cyfieithiad Syr John Morris Jones a fu’n Athro Cymraeg yma ym Mangor.

Photo of pages from a Gregynog press book called 'Caneuon Ceiriog'
BONEDDIGES HERBERT LEWIS

Mae’r Foneddiges Ruth Herbert Lewis yn adnabyddus am ei gwaith arloesol yn casglu a chyhoeddi caneuon gwerin Cymreig ac fel aelod blanllaw o Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Gwasanaethodd fel Ysgrifenyddes o’r Gymdeithas honno rhwng 1914 a 1924 ac fel Cadeirydd rhwng 1927 a 1930 cyn dod yn Lywydd yn 1930 hyd ei marwolaeth yn 1946.

Dyma ei chasgliad personol o lyfrau sy’n cynnwys 182 o eitemau am alawon gwerin a llen gwerin o gychwyn y bedwaredd ganrif ar bymetheg hyd yr ugeinfed ganrif.

Rhoddwyd y casgliad i’r Llyfrgell gan Ruth Facer, wyres y Foneddiges Herbert, yn 2005.

CASGLIAD OWEN PRITCHARD

Ffurfiwyd y casgliad gan Dr Owen Pritchard rhwng 1884 a 1920, ac fe’i cyflwynwyd ganddo i’r coleg yn 1920. Mae Casgliad yn cynnwys llawer o weithiau a argraffwyd gan weisg preifat yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif. Yn y casgliad trawiadol hwn mae llyfrau a argraffwyd i William Morris, gan gynnwys ysgrifeniadau, darlithoedd ar wleidyddiaeth, ac ailargraffiadau o bapurau’n ymwneud â’r mudiad Celf a Chrefft. Y gyfrol “Love is Enough, or the Freeing of Pharamond”, a gyhoeddwyd gan Ellis a White in 1873, yw’r argraffiad cyntaf yn Lloegr o’r ddrama foes a gyhoeddwyd i Morris yn 1872 gan Roberts o Boston.

PINNACLE CLUB

Clwb Prydeinig o ddringwyr benywaidd yw’r Pinnacle Club a’i amcanion yw annog datblygiad dringo a mynydda ymhlith merched, a dod a phawb sydd â diddordeb yn y gweithgareddau hyn at ei gilydd. Er mwyn hybu ymdrechion y clwb, crewyd llyfrgell fechan, i’w defnyddio gan yr aelodau.
Mae oddeutu 350 o lyfrau i’w canfod yn y casgliad ac amryw gylchgronnau ar bynciau yn ymwneud â dringo a mynydda ynghyd â hanes dringwyr benywaidd sy’n dyddio’n ôl i’r 1920au.
Oherwydd lleoliad anaddas y llyfrgell yn y gorffennol, fe’i trosglwyddwyd i ofal Prifysgol Bangor yn ystod Haf 2013.

 

BEIBLAU CYMRAEG

Mae gan y Llyfrgell gasgliad o Feiblau sy’n cynnwys copïau o’r holl Feiblau a ysgrifennwyd yn Gymraeg. Mae’r deunyddiau nodedig canlynol yn y casgliad:   
     
Y Beibl Cyssegr-lan, sef Yr Hen Destament, a’r Newydd. Copi o’r cyfieithiad llawn  cyntaf o’r Beibl i’r Gymraeg gan yr Esgob William Morgan. Y cyfieithiad hwn a osododd y safon i Gymraeg ysgrifenedig.

Testament Newydd ein arglwydd Jesu Christ. Yn 1563, cyfarwyddwyd y pedwar Esgob Cymreig ynghyd ag Esgob Henffordd i gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg erbyn 1566 – gorchwyl amhosibl. Serch hynny, erbyn 1567 roedd William Salesbury, gydag Esgob Richard Davies o Dyddewi, a Thomas Huet, codwr canu Tyddewi, wedi cyhoeddi cyfieithiad o’r Testament Newydd.

Llyfr y Psalmau Edmund Prys 1544-1623. Roedd Edmund Prys wedi ei drwytho yn y traddodiad barddol Cymraeg, a phan oedd yn Archddiacon Meirionnydd, cyfieithodd y Salmau i Gymraeg syml a rhythmig. O ganlyniad gallai eglwyswyr fod yn rhan o’r gwasanaeth unwaith eto. Hyd yn oed heddiw, mae salm o’i waith yn llyfr salmau pob enwad. 

Photo of the pages of a very early Welsh bible
CASGLIAD LLENYDDOL CYMRAEG PLANT

Casgliad hanesyddol o lenyddiaeth plant ynghyd â deunydd Cymraeg a ysgrifenwyd ar gyfer plant – ffeithiol, llyfrau lluniau, barddoniaeth, dramáu, llyfrau ffeithiol, gwerslyfrau, cyfresi darllen, hwiangerddi a chylchgronnau.

Daeth y casgliad i feddiant Prifysgol Bangor drwy rodd oddi wrth:

Cyngor Llyfrau Cymru
Casgliad Castell Brychan
David Greenslade Caerdydd
Coleg Santes Fair, Bangor
Coleg Normal

Arianwyd peth o’r gwaith catalogio gan gronfa ymddiriedaeth Eira Mary Davies.

Mae’r casgliad yn cynnwys oddeutu 11,100 o eitemau.

PAPURAU NEWYDD CYMRAEG

Mae papurau newydd yn ffynhonnell amhrisiadwy, ac fe’i defnyddir yn helaeth gyda phob math o ymchwil, boed academaidd neu arall, i bynciau megis hanes lleol a theuluol, hanes cymdeithasol, hysbysebu a chwaraeon. Y casgliad sydd yn y Llyfrgell Gymraeg ym Mangor yw’r un mwyaf cynhwysfawr yng Nghymru.

Mae’r manylion llawn am yr holl bapurau a gyhoeddwyd yng Nghymru neu sydd â chysylltiadau Cymreig yn  'Adroddiad ar gynllun NEWSPLAN yng Nghymru'. Mae’r rhestr hon, sydd yn nhrefn yr wyddor, o ddaliadau Bangor yn cynnwys:

  • Teitl llawn gan gynnwys amrywiadau
  • Dyddiad cyhoeddi
  • Man cyhoeddi  
  • Nodiadau cefndirol
  • Cysylltiadau i’r cofnodion catalog o ddaliadau ym Mangor

A B C D DD E F FF G NG H I J L LL M N O P PH R RH S T TH U W Y

Chwilio Catalog y Llyfrgell am Lyfrau Prin a Chasgliadau Arbennig Printiedig

Dyma fideo byr ar sut i chwilio catalog ar-lein y llyfrgell er mwyn darganfod llyfrau prin ac eitemau o’n casgliadau arbennig printiedig.

Y ffordd symlaf o chwilio'r catalog yw teipio term chwilio yn y blwch chwilio. Fe welwch, wrth i chi deipio, fod opsiynau cwmpasau chwilio yn ymddangos o dan y blwch chwilio. Mae’r cwmpasau chwilio yn pennu pa ddeunyddiau fydd yn ymddangos yn eich canlyniadau, felly gan ein bod yn chwilio am eitemau printiedig o fewn casgliadau Prifysgol Bangor, dylech ddewis y cwmpawd chwilio Chwiliad Bangor.

Unwaith y byddwch wedi teipio eich termau chwilio a dewis cwmpawd chwilio Chwiliad Bangor, bydd y catalog yn chwilio am eitemau sy'n cyd-fynd â'ch termau ac allweddeiriau. Yma gallwn weld bod y catalog wedi dychwelyd 24 eitem.

Gallwch hidlo'ch canlyniadau, i gynnwys eitemau o'n casgliadau arbennig printiedig yn unig, trwy ddewis Archifau, o dan yr opsiynau Llyfrgell ar ochr dde'r sgrin.

Efallai y gwelwch fod y catalog yn cynnig dolen ‘sawl lleoliad’, os byddwch yn clicio ar y ddolen efallai y gwelwch fod copi ar gael i’w fenthyg yn y llyfrgell a fyddai efallai yn fwy cyfleus i chi ei ddefnyddio. Gwelwn yma fod un copi ar gael yn yr Archifau fel llyfr prin, ond bod copi arall ar gael yn y Llyfrgell Gymraeg a gellir ei fenthyg. Os oes gennych gerdyn benthyg, gallwg bigo i’r llyfrgell i fenthyg y llyfr el y dymunwch yn hytrach a gorfod trefnu amser penodol i’w weld yn yr archifdy gyda copi prin.

Mae yna ffilterau eraill y gallwch eu defnyddio. Os ydych yn cael gormod o ganlyniadau, er enghraifft, gallwch osod ystod dyddiad trwy deipio eich dyddiadau o dan yr hidlydd ‘Dyddiad Creu’, ac yna clicio Mireinio.

Os nad ydych yn cael digon o ganlyniadau, ceisiwch newid eich termau chwilio.  Efallai rhowch gynnig ar y sillafiadau Cymraeg a Seisnigedig. Er enghraifft, mae chwilio am Gastell Carnarvon yn dod â chanlyniadau chwilio gwahanol i fyny (227 yma) i'r rhai a ymddengys os chwiliwch am Castell Caernarfon gyda’r sillafiad cywir Cymreig (105 o ganlyniadau yma).

Bydd clicio ar deitl eitem yn y catalog yn rhoi mwy o fanylion i chi am y llyfr hwnnw megis manylion y cyhoeddiad a’r nodweddion ffisegol, nifer y tudalennau, maint yr eitem ac ati.

Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i’r eitem yr hoffech ei weld, gwnewch nodyn o’r awdur, teitl a dyddiad cyhoeddi, os yw ar gael, a hefyd y rhif yr galwad. E-bostiwch y rhain i archifau@bangor.ac.uk gyda’r dyddiad yr hoffech ddod i weld yr eitem, a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi yn fuan i gadarnhau.

Gobeithio bod y fideo hwn wedi bod yn ddefnyddiol i chi, os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, anfonwch e-bost atom i archifau@bangor.ac.uk

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?