Papurau newydd Cymraeg: A
ABERYSTWYTH
OBSERVER AND CARDIGANSHIRE GENERAL ADVERTISER
Ymddangosodd 2948 o rifynnau rhwng Mehefin 19, 1858 a Mai
1915. Ymgorfforwyd gyda'r Montgomery County Times
AMSERAU Lerpwl/Liverpool
Sefydlwyd yn Lerpwl ym 1843 gan John Jones, Argraffwr a Chyhoeddwr,
21 Castle Street. Roedd hwn yn bapur Cymraeg o gryn bwysigrwydd
o dan olygyddiaeth William Rees (Gwilym Hiraethog). Yr enw
swyddogol ar y papur oedd Amserau Wythnosol a'r Hysbysydd Cyffredinol.
Rhwng Gorffennaf a Medi 1848 cyhoeddwyd ef ar Ynys Manaw! Yn ol
y dystiolaeth ar y blaenddalennau John Lloyd oedd y perchennog yn
ystod yr adeg hon. Mae'n amlwg mai'r rheswm tros ad-leoli i Ynys
Manaw oedd ceisio osgoi'r dreth ar bapurau newyddion a hysbysebion.
Yn 1859 prynwyd ef gan Thomas Gee ac unodd gyda Baner Cymru i ffurfio
Baner ac Amserau Cymru.
YR AMSEROEDD Caernarfon
Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf ar Ionawr 3, 1882 a bu mewn bodolaeth
am ddwy flynedd a hanner. Cyhoeddwyd 105 o rifynnau o dan yr enw
gwreidddiol a 26 o dan faner yr Yr Amseroedd Wythnosol.
AWEL ERYRI Caernarfon
Ymddangosodd y rhifyn cyntaf ar y 7fed o Fawrth 1907 a daeth i ben
ar y 30ain o Ebrill 1908 ar ôl 61 argraffiad.