Papurau newydd Cymraeg: B
BANER AC AMSERAU
CYMRU gwBANER CYMRU
BANER
CYMRU Dinbych/Denbigh
Sefydlwyd ym 1857 gan Thomas Gee. Yn 1859 prynodd Thomas Gee Yr
Amseroedd ac o 1859 tan 1971 Baner
ac Amserau Cymru oedd yr wythnosolyn pwysicaf yn yr iaith
Gymraeg. Ail-lansiwyd fel Y
Faner yn 1971 ond oherwydd cylchrediad isel a methiant y perchnogion
i sicrhau nawdd, cyhoeddwyd y rhifyn olaf ar yr 17eg o Ebrill 1992.
Ceir crynodeb da o hanes Y Faner o'r crud i'r bedd gan Lynn Owen-Rees
yn Y Faner, Ebrill 10, 1992.
Y BEDYDDIWR CYMREIG
Wythnosolyn enwadol a ymddangosodd am 10 mis rhwng Gorffennaf 1885
ac Ebrill 1886.
Y BRYTWN Bala
Misolyn a ymddangosodd rhwng Chwefror 1836 a Gorffennaf 1840.
Y BRYTHON Tremadog
25 Mehefin - 1 Hydref 1858
Parhaodd fel cylchgrawn.
Y
BRYTHON (THE BRITTON) Lerpwl/Liverpool Rhif 1 - 1723
(8 Chwe. 1906 - 23Chwe. 1939)*