Prosiectau
Ar hyd y blynyddoedd, mae’r Archifau a’r Casgliadau Arbennig wedi bod yn gyfrifol am reoli nifer o brosiectau sydd wedi cyffwrdd ag amryw bynciau. Rydym wedi cydweithio ar nifer o’r proseictau hyn gyda sefydliadau a chymdeithasau etc. oddi allan i’r Brifysgol ac o ganlyniad rydym wedi llwyddo i wella dealltwriaeth o’n casgliadau ac o hanes gogledd Cymru.
Dyma rai esiamplau o’r proseictau yr ydym wedi chwarae rhan flaenllaw ynddynt ar hyd y blynyddoedd
Datguddio Treftadaeth Mwyngloddio Môn – Cofnodion Cwmni Cyf. Mwynfeydd Mona a Parys (2019)
Mae'r Archifau a Chasgliadau Arbennig wedi derbyn grant o £8,484 oddi wrth yr NMCT a Llywodraeth Cymru tuag at brosiect cadwriaethol.
Mae Cofnodion Cwmni Cyf. Mwynfeydd Mona a Parys yn cynnwys llyfrau cyfrifon, llyfrau cofnodion, gweithredoedd, cynlluniau, llyfrau copi a ffeiliau o ohebiaeth a.y.y.b. sy’n dyddio rhwng 1768-1958.
Ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, Cwmni Mona a Parys oedd y cynhyrchydd pwysicaf o gopr ar raddfa byd-eang a bu bron iawn iddynt ddinistrio’r diwydiant mwyngloddio enwog yng Nghernyw.
Mae’r cofnodion yma wedi bod yng ngofal Prifysgol Bangor er 1990 ond oherwydd eu cyflwr ffisegol nid ydynt wedi bod ar gael i ddarllenwyr – mae’r holl gasgliad yn hynod o fudr gyda pheth tystiolaeth o lwydni, ymosodiadau gan bryfetach a llygriad gan giwana. Bydd y prosiect cadwraeth a phecynnu yma yn galluogi’r archifydd i gychwyn ar y gwaith catalogio ac yn sicrhau dyfodol cadwriaethol y casgliad.
Y gobaith yw y bydd y prosiect yn creu diddordeb o’r newydd mewn cofnodion busnes, diwydiannol a mwyngloddio ym Mhrifysgol Bangor, ac y bydd y casgliad yma yn cael ei ddefnyddio ochr yn ochr â dogfennau tebyg eraill sydd yn ein gofal, megis, Papurau Mwynfa Mona a Chofnodion Cwmni Smeltio Copr Williams a Grenfell.
Mae gan y casgliad y potential i gyfrannu ymhellach tuag at ein dealltwriaeth ni o bwysigrwydd y diwydiant mwyngloddio ym Môn a’i ddylanwad ar ddiwydiannau eraill ym Mhrydain a thros y môr.
Bydd y gwaith ar y prosiect yn cychwyn fis Mehefin 2019.
Y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Profiad Cymreig 1914-1918 (2013-2014)
Bu Prifysgol Bangor yn rhan o brosiect digido anferth yn ymwneud â’r Rhyfel Byd Iaf. Bwriad y prosiect oedd sicrhau bod yna gasgliad cyflawn o ddeunydd digidol ar gael mewn un lle ar y we. Roedd y deunydd gwreiddiol ar wasgar ar hyd a lled Cymru ond daethpwyd â’r rhain at ei gilydd i greu adnodd unigryw a hynod bwysig i ymchwilwyr, myfyrwyr, a’r cyhoedd yng Nghymru a thu draw.
Ymysg y partneriaid a gyfranodd i’r wefan oedd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Jisc, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Aberystwyth, BBC Cymru, Casgliad y Werin Cymru, Archifau Cymru, a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Dyddiaduron Bulkeley (2013-2014)
Mewn cydweithrediad a Llên Natur, Cymdeithas Edward Llwyd, a Chyngor Sir Ynys Môn cynhyrchwyd trawsysgrifiad o ddyddiaduron Bwcle (Henblas A Mss 18-19) sydd i’w canfod yn yr Archifau a’r Casgliadau Arbennig ym Mangor. Penllanw’r prosiect oedd sicrhau bod y trawsysgrifiad ar gael ar y we, ochr yn ochr â delweddau o dudalennau’r dyddiaduron. Mae defnyddwyr hefyd yn gallu chwilota drwy’r testun drwy deipio allweddair yn y blwch chwilio.
Glaniad (2005-2006)
Roedd Glaniad yn brosiect a oedd yn cynnwys nifer o bartneriaid a’i nod oedd digido eitemau o arwyddocâd diwylliannol a hanesyddol i Gymru a Phatagonia. Crewyd oriel o ddelweddau digidol a gwefan tair-ieithog yn cynnwys themâu ac erthyglau yn dehongli’r eitemau digidol.
Partneriaid y prosiect oedd CyMAL, Culturenet Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Archifdy a Llyfrgell Prifysgol Bangor, ac amryw sefydliadau ym Mhatagonia.
Archives Hub (1999-2001)
Ym 1999 gwahoddwyd Prifysgol Bangor i gyfrannu data ar gyfer yr Archives Hub – adnodd cenedlaethol i gasgliadau archifol mewn Prifysgolion a Cholegau ym Mhrydain. Cafwyd grantiau ar achlysuron gwahanol i gyflogi 2 archifydd i greu disgrifiadau o’n casgliadau.
Archif Enwau Lleoedd Melville Richards (1994-2004)
Mae gwreiddiau’r prosiect yma yn ymestyn mor bell â 1994 pan grewyd swydd yn y Brifysgol, wedi’ hariannu gan Fwrdd Gwybodau Celtaidd, i roi archif enwau lleoedd Melville Richards ar gronfa ddata. Cafwyd grant mawr yn ddiweddarach gan yr AHRB i gwblhau’r gwaith mewn 3 blynedd rhwng 2001 a 2004. Yr Athro Hywel Wyn Owen oedd yn gyfrifol am y prosiect.