Casgliad Llenyddol Cymraeg Plant

Mae’r casgliad yma wedi’i leol yn Llyfrgell y Normal. Mae’n gasgliad hanesyddol o lenyddiaeth plant ynghyd â deunydd Cymraeg a ysgrifenwyd ar gyfer plant – ffeithiol, llyfrau lluniau, barddoniaeth, dramáu, llyfrau ffeithiol, gwerslyfrau, cyfresi darllen, hwiangerddi a chylchgronnau.

Daeth y casgliad i feddiant Prifysgol Bangor drwy rodd oddi wrth:

Cyngor Llyfrau Cymru
Casgliad Castell Brychan
David Greenslade Caerdydd
Coleg Santes Fair, Bangor
Coleg Normal

Arianwyd peth o’r gwaith catalogio gan gronfa ymddiriedaeth Eira Mary Davies.

Mae’r casgliad yn cynnwys oddeutu 11,100 o eitemau.