Mae Elin Owen Jones yn 20 oed ac o Efailnewydd, ger Pwllheli. Mae Elin yn astudio Cyfrifeg a Chyllid BSc.
Buodd yn Ysgol Glan y Môr hyd at flwyddyn 11 cyn symud i Goleg Meirion Dwyfor, Pwllheli i gwblhau ei Lefel A.
Rwyf wedi byw yn Neuadd JMJ ers dwy flynedd bellach ac wedi mwynhau byw yno yn arw! Teimlaf ei fod yn brofiad gwych er mwyn dod i gyfarfod ffrindiau newydd ledled Cymru.