Canllawiau ar gyfer archebu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd
Os ydych eisiau trefnu bod cyfieithydd ar y pryd yn bresennol mewn cyfarfod neu ddigwyddiad, dyma rai canllawiau i’w dilyn:
1. Dylech gynnwys yr holl fanylion perthnasol wrth archebu'r gwasanaeth:
- dyddiad
- amser
- lleoliad
- natur y digwyddiad/cyfarfod
- nifer y bobl ddi-Gymraeg fydd angen y gwasanaeth
- unrhyw bapurau perthnasol
2. Dylech archebu’r gwasanaeth o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn dyddiad y digwyddiad/cyfarfod. Fel rheol, oherwydd y galw mawr am ein gwasanaeth yn ystod oriau gwaith arferol, ni allwn gytuno i ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd y tu allan i oriau gwaith. Yn achos cynadleddau academaidd, mae’n rhaid cysylltu â’r uned o leiaf ddau fis cyn y digwyddiad. Mae croeso i drefnwyr cynadleddau gysylltu â ni cyn hynny am gyngor ar drefniadau ymarferol cyfieithu ar y pryd. Ond ni fydd modd cadarnhau y bydd y gwasanaeth ar gael nes bydd yr uned wedi cael copi o’r rhaglen gyda manylion llawn am y gofynion cyfieithu ar y pryd.
3. Dylech anfon unrhyw bapurau perthnasol at weinyddwr yr uned er mwyn i’r cyfieithydd allu paratoi at y cyfarfod/digwyddiad. Mae hyn yn bwysig ym mhob achos, ond mae’n hanfodol ar gyfer cyflwyniadau, cyfweliadau, seminarau ymchwil a chynadleddau. Mae’n rhaid anfon cyflwyniadau neu bapurau i’w cyflwyno mewn cynadleddau academaidd o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn y gynhadledd.
4. Yn achos cyfweliadau a chyflwyniadau, dylech geisio sicrhau bod yr ymgeisydd/cyflwynydd yn bwriadu siarad Cymraeg. Os bydd mwy nag un unigolyn yn cymryd rhan, dylech geisio sicrhau bod y rhai sy’n bwriadu siarad/cyflwyno yn Gymraeg yn dilyn ei gilydd ar yr amserlen er mwyn gwneud y defnydd gorau o amser y cyfieithydd, ond cofiwch nad yw cyfieithwyr ar y pryd i fod i gyfieithu am fwy na hanner awr heb saib o 5 munud o leiaf.
5. Un set o offer cyfieithu a ddarperir fesul digwyddiad; hynny yw, ni all yr uned ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd mewn sesiynau cyfochrog yn yr un digwyddiad oherwydd y gofynion eraill sydd ar y gwasanaeth.
6. Dylech sicrhau bod bwrdd addas i osod yr offer cyfieithu gyda soced trydan gerllaw yn y lleoliad.
7. Cofiwch am y cyfieithydd wrth archebu paneidiau, etc. Os yw’r cyfarfod/digwyddiad yn un hir, cofiwch sicrhau bod dŵr ar gael i'r cyfieithydd.
Os gwelwch yn dda, defnyddiwch y ffurflen ar-lein i archebu'r gwasanaeth.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Gweinyddwr yr Uned [est. 2038].