Grŵp o fyfyrwyr yn defnyddio gofod dysgu cymdeithasol yn adeilad Pontio

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Nod y Coleg yw adeiladu system addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog sy’n agored i bawb ac i ddatblygu gweithlu dwyieithog i Gymru. 

Ar y dudalen hon:

Gwaith y Gangen

Gwaith Cangen Bangor yw: 

  • cydlynu gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Bangor
  • hyrwyddo’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd yn cael ei chynnig i fyfyrwyr
  • cefnogi staff academaidd a myfyrwyr y Brifysgol adrodd yn ôl i'r Coleg ar ddatblygiadau a chynnydd projectau, darlithyddiaethau ac ysgoloriaethau
  • trefnu cyfarfodydd y Gangen.

Cynhelir cyfarfod nesaf y Gangen ar 10 Mai 2023.

Mae'r Gangen yn gweinyddu rhestr e-bost i staff ar gyfer unrhyw faterion sy'n ymwneud â chynnal a datblygu'r ddarpariaeth Gymraeg ym Mangor. I danysgrifio i'r rhestr, anfonwch neges at Emily Boyman, y Swyddog Cangen.

Llun Emily Boyman Swyddog Cangen Bangor, Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn ffram lliw melyn a llwyd

Croeso gan Swyddog Cangen Bangor Emily Boyman

"Helo bawb! Emily Boyman ydw i, a fi ydi Swyddog Cangen Prifysgol Bangor o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 'Dw i'n gyn-fyfyrwraig Prifysgol Bangor. Graddiais mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol nôl yn 2018, felly mae'n braf cael bod yn ôl yma! Cefais fy magu ar aelwyd ddi-Gymraeg ac wedi dysgu'r Gymraeg yn bennaf drwy'r system addysg. Roedd dilyn cwrs addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddewis hollol naturiol i mi. 'Dw i'n gobeithio y bydd y profiad yma o fudd i mi yn fy rôl."

Modiwlau a chyrsiau

Mae Prifysgol Bangor yn cynnig cyfleoedd niferus i fyfyrwyr astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mewn cydweithrediad â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae Bangor yn darparu mwy o fodiwlau a chyrsiau trwy gyfrwng Gymraeg nag unrhyw brifysgol arall. Ym Mangor hefyd y mae'r nifer fwyaf o fyfyrwyr sy'n dewis astudio trwy'r Gymraeg.

Defnyddiwch chwilotydd cyrsiau y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael syniad faint o'ch cwrs sydd ar gael drwy'r Gymraeg.

Cliciwch isod i wybod mwy am fanteision astudio trwy'r Gymraeg ac i weld pa fodiwlau sy'n cael eu cynnig trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.

modIWLAU CYFRWNG CYMRAEG a dwyieithog Blwyddyn 1 2022/23 

Ysgoloriaethau

Mae'r Coleg yn dyfarnu nifer o ysgoloriaethau i fyfyrwyr sy'n astudio cyrsiau penodol yn rhannol, neu'n gyfan gwbl, drwy gyfrwng y Gymraeg.  Am fanylion llawn am yr ysgoloriaethau, ewch i wefan y Coleg.

Prif Ysgoloriaethau

Mae'r Prif Ysgoloriaethau werth £3000, ac ar gael i fyfyrwyr sy'n llwyddo yn arholiad mynediad Prifysgol Bangor ac yn ymrwymo i astudio 80 credyd o'u cwrs yn Gymraeg bob blwyddyn.

Ysgoloriaethau Cymhelliant

Mae'r Ysgoloriaethau Cymhelliant werth £1500, ac ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio 40 credyd o'u cwrs yn Gymraeg bob blwyddyn mewn unrhyw bwnc lle mae modd gwneud hynny.

Mwy o wybodaeth

Aelodaeth

Mae croeso i unrhyw un ddod yn aelod o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a hynny yn rhad ac am ddim. Trwy ymaelodi, byddwch yn derbyn gwybodaeth am holl weithgareddau a datblygiadau'r Coleg.

Mae pedwar categori o aelodaeth:

  1. Darpar fyfyrwyr
  2. Myfyrwyr Prifysgol
  3. Staff Prifysgol
  4. Cyfeillion

Bydd pawb sy’n ymaelodi fel myfyriwr neu fel aelod staff hefyd yn dod yn aelod o Gangen Prifysgol Bangor.

YMAELODI Â'R Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Tystysgrif Sgiliau Iaith

Mae cyfle i bob myfyriwr sy'n aelod o'r Coleg ymgeisio am Dystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg. Mae'r dystysgrif yn ffordd o ddangos i gyflogwyr fod gan y myfyrwyr hynny sgiliau ieithyddol cydnabyddedig yn y Gymraeg, a'u bod yn gallu cyfathrebu ac ysgrifennu'n hyderus yn y Gymraeg.

Er mwyn ennill y dystysgrif, mae'n rhaid cwblhau a phasio:

  • Arholiad ysgrifenedig (1.5 awr)
  • Tasg lafar (15 munud)

Mae sesiynau cefnogaeth ieithyddol ar gael i bawb sydd eisiau sefyll y dystysgrif. Ym Mangor, mae'r gefnogaeth yn cael ei darparu gan diwtoriaid Uned Gloywi Iaith Canolfan Bedwyr.

Mae’n bosib i unrhyw fyfyriwr ymgeisio am y dystysgrif.

TYSTYSGRIF SGILIAU IAITH

Porth Adnoddau

Llwyfan e-ddysgu cydweithredol y Coleg yw’r Porth. Fe’i sefydlwyd yn 2009 er mwyn annog Prifysgolion i rannu adnoddau addysgu cyfrwng Cymraeg â’i gilydd. Yn sgil hynny, mae wedi datblygu yn ffocws hollbwysig ar gyfer astudio ac addysgu cyrsiau Prifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r Porth yn seiliedig ar Blackboard, ac yn agored i staff a myfyrwyr yn holl brifysgolion Cymru.

Mae’n cynnwys:

  • adnoddau a deunyddiau electronig
  • oriel gwe
  • modiwlau a deunyddiau cefnogol
  • porth chwiliadwy o dermau ar gyfer addysg uwch 

Er bod y Porth yn cynnwys nifer o adnoddau agored, mae angen cofrestru fel defnyddiwr er mwyn cael mynediad at rai adnoddau (e.e. modiwlau penodol).

Mae'r broses o gofrestru fel defnyddiwr yn rhwydd -dilynwch y cyfarwyddiadau ar dudalen flaen y wefan.

EWCH I'R Porth

Emily Boyman, Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG.

Cysylltwch â ni

Emily Boyman, Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?