Newyddion: Ionawr 2019

Why foraging for free is food for the soul

Dyma erthygl yn Saesneg gan Elisabeth S. Morris-Webb  Ymgeisydd PhD yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Ionawr 2019

Gwella bridio pysgod trofannol o ganlyniad i gydweithio newydd

O ganlyniad i gydweithio newydd, bydd technegau arloesol yn galluogi rhai o’r prif acwaria sydd hefyd yn gyrchfannau twristiaeth fridio eu pysgod trofannol eu hunain.

Mae larfae nifer o rywogaethau pysgod mor fach fel na ellir ei gweld gyda’r llygad, ac mae eu bwyd hyd yn oed fwy meicrosgopig ei natur. Mae hyn yn ei gwneud yn her i’w bridio mewn tanc.

Ond mae  arbenigwyr dŵr amaethu (aquaculture) ym Mhrifysgol Bangor yn credu  y gallent helpu’r diwydiant acwaria i ddatblygu technegau i fagu eu pysgod riffiau cwrel eu hunain o larfae y maent wedi ei gasglu o’u acwaria.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Ionawr 2019