Prentisiaethau Gradd

Gallwch ennill gradd ac aros mewn cyflogaeth

Sut mae prentisiaeth gradd yn gweithio?

Ar y cwrs hwn mae myfyrwyr yn gweithio am bedwar diwrnod yr wythnos gyda’u cyflogwr. Cânt eu rhyddhau i astudio am ddiwrnod a gyda’r nos yn y coleg, ac yna yn y brifysgol. Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf byddwch yn astudio yng Ngrŵp Llandrillo Menai neu Coleg Cambria, cyn symud i Brifysgol Bangor am y flwyddyn ddiwethaf i gwblhau’r cymhwyster BSc. Byddwch yn graddio yn y diwedd gyda gradd o Brifysgol Bangor.

 Y Costau

Caiff prentisiaeth gradd ei hariannu’n llawn, byddwch yn cael profiad gwaith gwerthfawr a gradd sy’n berthnasol i’r diwydiant heb ddim cost i chi!

Pa Brentisiaethau Gradd sydd ar gael?

MANTEISION

Dim Dyled! Arienir yn llawn.

Ariennir y cwrs yn llawn ac mae’n cyfuno holl fanteision gradd gonfensiynol heb yr anfanteision ariannol.

Ennill pres wrth ddysgu

Mae cyflogaeth Prentisiaid Gradd yn rhan o’r cwrs, sy’n golygu y byddwch yn ennill cyflog wrth astudio.

Cymhwyster y diwydiant

Mae’r cymhwyster hwn yn perthyn yn uniongyrchol i’r diwydiant, a bydd yn rhoi’r sgiliau angenrheidiol i weithwyr a chyflogwyr fedru llwyddo.

Sgiliau cyflogadwyedd

Mae Prentisiaeth Gradd yn fodd i fyfyrwyr wneud profiad gwaith ymarferol a datblygu gyrfa a chael cymhwyster academaidd.

Llun agos o law myfyriwr yn ysgrifennu nodiadau mewn llyfr nodiadau

Sut i wneud cais?

Cyflogwyr

Bydd angen i gyflogwyr gysylltu â ni’n uniongyrchol i drafod y cyfleoedd sydd ar gael. 

Gweithwyr

Bydd angen bod y gweithwyr mewn cyflogaeth lawn amser neu ran amser (o leiaf 16 awr yr wythnos) yn y diwydiant TG a dylent gysylltu â ni’n uniongyrchol i gael rhagor o wybodaeth.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?