Newyddion: Mawrth 2019
Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr yn arwain y DU wrth sicrhau ynni glân
Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr yw'r ardaloedd allweddol ar gyfer datblygu ymchwil a pheirianneg niwclear yn y DU, yn ôl adroddiad Archwilio a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU a gyhoeddwyd heddiw. Dengys yr adroddiad nad oes gan unman arall yn Ewrop y fath arbenigedd niwclear, gyda mynediad heb ei ail i sgiliau byd-enwog ac arbenigedd arloesol mewn ymchwil a datblygu niwclear.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2019
Prifysgol Bangor yn rhan o gynllun cydweithredol gwerth £200m i greu cenhedlaeth newydd o arweinwyr Deallusrwydd Artiffisial
Mae Prifysgol Bangor i gymryd rhan mewn ymgyrch newydd gyffrous i greu mil o ymchwilwyr ac arweinwyr busnes newydd. Cynlluniwyd y project i sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn arwain y chwyldro byd-eang mewn Deallusrwydd Artiffisial (DA). Bydd cenhedlaeth newydd o fyfyrwyr PhD yn defnyddio technoleg DA i wella gofal iechyd, mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a chreu cyfleoedd masnachol newydd, diolch i fuddsoddiad o £100m gan UK Research and Innovation a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2019