
My Details
Mrs Tracy Hibbert
Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol
+44 (0)1248 383866
Prifysgol Bangor
Mae gan Tracy Hibbert dros 20 mlynedd o brofiad o weithio yn y sector addysg uwch, a chyn hynny bu’n gweithio i’r Swyddfa Gartref. Mae hi bellach yn arwain y Gyfarwyddiaeth Adnoddau Dynol gan gefnogi amcanion strategol Prifysgol Bangor yn weithredol. Un cyfrifoldeb allweddol yw arwain ar ddatblygu strategaeth Pobl a Thalent y Brifysgol. O dan gyfarwyddyd Tracy, mae’r gyfarwyddiaeth AD yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr gan gynnwys arweiniad, cyngor a chefnogaeth ar bolisïau, recriwtio, tâl a gwobrwyo, perfformiad a datblygiad, cydraddoldeb ac amrywiaeth, cysylltu ag ymgysylltu â gweithwyr a datblygiad a hyfforddiant sefydliadol. Maent hefyd yn cefnogi gwobrau Athena SWAN a'r Concordat Ymchwil.
Ar hyn o bryd mae Tracy yn Gadeirydd Adnoddau Dynol Prifysgolion (UHR) Cymru, y sefydliad proffesiynol ar gyfer ymarferwyr Adnoddau Dynol yn y sector addysg uwch, ac mae’n aelod o Bwyllgor Gweithredu UHR. Hi hefyd yw Cadeirydd Grŵp Hysbysebu’r Prifysgolion (consortiwm o 39 o Brifysgolion yn gweithio gyda’i gilydd i gaffael hysbysebion recriwtio cost-effeithiol ar gyfer y sector) ac mae’n Gymrawd o’r CIPD (Y corff proffesiynol ar gyfer AD).