Myfyriwr yn dewis llyfr yn y llyfrgell

Athroniaeth a Chrefydd

Darganfyddwch ein Cyrsiau Israddedig

Dod o hyd i gwrsDiwrnod Agored

Pam Astudio Athroniaeth a Chrefydd?

Athroniaeth yw'r astudiaeth o natur sylfaenol gwybodaeth, realiti a bodolaeth. Mae'n ffordd o feddwl am y byd, y bydysawd, a'r gymdeithas. Mae crefydd yn rhychwantu hanes, dyma brif fynegiant ymgais dynoliaeth i ddod o hyd i ystyr a phwrpas, ac mae'n dylanwadu ar ddiwylliannau ac yn chwarae rhan fawr wrth lunio tirwedd wleidyddol heddiw. Mae deall y ffenomen hon yn ein helpu i archwilio cwestiynau mwyaf sylfaenol ein bodolaeth

  • Mae'r ysgol wedi ei lleoli yng nghanol campws mawreddog y brifysgol ac mae gan bynciau Athroniaeth a Chrefydd hanes hir a nodedig o gael eu dysgu ym Mangor ers mwy na chanrif.
  • Mae ein staff yn cyflawni llawer o waith ymchwil ac yn cynnwys ymchwil gyfredol yn eu haddysgu.
  • Rydym yn cynnig cyfle i fyfyrwyr astudio Athroniaeth a Chrefydd fel gradd Anrhydedd Sengl, neu ar y cyd â nifer o bynciau eraill fel rhan o radd gydanrhydedd.
Image of Llio Wyn Owen

PROFFIL MYFYRIWR Llio Wyn Owen

Athroniaeth a Chrefydd

"Mae’r Ysgol Athroniaeth a Chrefydd yn un fechan, a hynny’n beth braf - mae gan y darlithwyr ddigon o amser i bawb, ac maent wastad yn help mawr, heb sôn am yr hwyl rydym ni gyd yn ei gael bob dydd. Rydw i’n edrych ymlaen at fynd i bob darlith."

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

Sgwrsiwch gyda'n myfyrwyr

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Athroniaeth a Chrefydd llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Athroniaeth a Chrefydd ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Athroniaeth a Chrefydd ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Ein Hymchwil o fewn Athroniaeth a Chrefydd

Mae arbenigedd y staff Athroniaeth a Chrefydd yn gorwedd yn fras ym meysydd athroniaeth y Gorllewin a chrefyddau'r Gorllewin a'r Dwyrain, ac mae'n cynnwys athroniaeth crefydd, moeseg ac astudiaethau seicdreiddiol. Mae'r staff yn arbenigwyr sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol yn eu priod faes, gan ddod â gwybodaeth a brwdfrydedd i'w haddysgu.

Mae gan yr adran gymuned weithgar o fyfyrwyr ymchwil ac mae'n cynnig goruchwyliaeth ymchwil mewn amrywiaeth o feysydd arbenigol, gan gynnwys:

  • Athroniaeth Crefydd
  • Meta-foeseg a moeseg normadol
  • Meta-athroniaeth
  • Problem Drygioni
  • Estheteg
  • Astudiaethau Islamaidd
  • Ffwndamentaliaeth
  • Astudiaethau seicdreiddiol
  • Astudiaethau Jungaidd
  • Cymdeithaseg Crefydd
  • Iechyd meddwl a pherthynas hynny â dirfodaeth a chrefydd.
Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?