Theatre and Performance

Drama, Theatr a Pherfformio

Darganfyddwch ein Cyrsiau Israddedig

Dod o hyd i gwrsDiwrnod Agored

Pam Astudio Drama, Theatr a Pherfformio?

Trwy archwilio ymarferol a dadansoddi beirniadol, bydd y rhaglen Theatr a Pherfformio ym Mangor yn rhoi cyfle i chi ddod â syniadau a pherfformiadau'n fyw ac archwilio perthnasedd theatr a pherfformio yn y gymdeithas heddiw.  

Fel adran rydym wastad yn edrych tuag at ddyfodol Drama, Theatr a Pherfformio. Pa effaith all y maes pwnc hwn ei gael ar wneuthurwyr, cynulleidfaoedd a chymunedau heddiw? Pa fath o wneuthurwr fyddwch chi? A sut allwn ni barhau i ailddyfeisio Perfformio yn y dyfodol?

Mae rhai myfyrwyr yn mwynhau astudio’r maes pwnc hwn ar ei ben ei hun, tra bod eraill yn cael budd o gyfuno’r maes pwnc hwn â phynciau eraill a gynigir yn y Brifysgol, megis Ffilm, Cyfryngau, Newyddiaduraeth, Cerddoriaeth, Cymraeg neu Lenyddiaeth Saesneg.

Er mwyn gwella eich sgiliau tra byddwch ym Mangor gallwch hefyd ddilyn modiwlau dewisol mewn meysydd pwnc eraill, megis drama radio, cynhyrchu ffilmiau byrion, a chynhyrchu cerddoriaeth mewn stiwdio.

Byddwch yn elwa ar gyfleusterau ardderchog, gan gynnwys Neuadd John Phillips, man perfformio mawr ar gyfer gwaith ymarfer a pherfformio, a Pontio, sef canolfan gelfyddydau ac arloesi lle mae stiwdio berfformio lle ceir cefnogaeth dechnegol gan weithwyr proffesiynol o'r diwydiant. Yn Pontio hefyd mae Theatr Bryn Terfel, sef theatr ac ynddi 450 o seddi, sy'n denu cynyrchiadau theatr o'r radd flaenaf yn rheolaidd.

Mae profiad gwaith yn agwedd bwysig iawn ar eich astudiaethau yma. Mae sawl cwmni theatr a theledu proffesiynol wedi eu lleoli yn yr ardal leol, yn ogystal â lleoliadau celfyddydol ac orielau celf y gallwch ymweld â nhw i gael profiad gwaith ychwanegol. Mae yma ddigwyddiadau cymunedol a phum cymdeithas ddrama ragorol a phoblogaidd iawn sy'n rhan o Undeb Myfyrwyr y Brifysgol ac sy'n llwyfannu cynyrchiadau'n gyson.

Fideo - Drama, Theatr a Pherfformio

Mae'r rhaglen hon wedi esblygu wrth i'r diwydiant proffesiynol newid yn barhaus. Rydym yn sicrhau bod myfyrwyr yn teimlo bod ganddyn nhw safonau cyfredol y diwydiant trwy ddefnyddio cyfleusterau theatr o'r radd flaenaf ym Mhontio, canolfan gelf ac arloesi Bangor.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

Sgwrsiwch gyda'n myfyrwyr

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Drama llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Drama ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Drama ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Ein hymchwil o fewn Drama, Theatr a Pherfformio

Mae ein holl addysgu yn seiliedig ar ein diddordebau ymchwil, felly cewch eich addysgu gan bobl sy'n flaenllaw yn eu maes ac sy'n angerddol am y pwnc. Mae gan ein staff brofiad proffesiynol helaeth ac yn eu plith mae gweithwyr proffesiynol megis cyfarwyddwr theatr ac ysgrifennwr sgriptiau.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?