Pam Astudio Cerddoriaeth?
Mae rhaglen gradd Gerddoriaeth Bangor yn hyblyg - byddwch chi'n siapio'ch cwrs gradd yn ôl eich diddordebau a'ch cryfderau. Byddwch yn dechrau astudio cerddoriaeth yn ei holl agweddau, trwy theori ac ymarfer cerddorol gan gynnwys polyffoni'r canol oesoedd cynnar a chyfansoddi electroacwstig, a phob genre arall dan haul. Byddwch yn defnyddio'r fframwaith eang hwnnw yn fan cychwyn i ddatblygu eich arbenigedd eich hun mewn un o nifer o feysydd megis cerddoleg, perfformio neu gyfansoddi, gan gynnwys cerddoriaeth yr 20fed ganrif, perfformio clasurol, cerddoriaeth ym maes iechyd a lles, a phob arddull cyfansoddi. Byddwch yn creu ac yn astudio cerddoriaeth gyda cherddorion, cyfansoddwyr a cherddolegwyr o'r un anian â chi, gan finiogi eich crefft ac archwilio'r maes. Yn eich blwyddyn olaf, cewch gyfle i ddilyn arbenigedd o'ch dewis chi, gan ymestyn eich galluoedd a'ch profi'ch hun.
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Cerddoriaeth llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Cerddoriaeth ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Cerddoriaeth ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?
Ein Hymchwil o fewn Cerddoriaeth
Mae ein staff yn ymchwilwyr brwd a'u diddordebau'n eang gan gynnwys cerddoleg, cyfansoddi a pherfformio. Yn yr RAE diwethaf (2014), nodwyd bod bron traean o'n hymchwil gyda'r gorau yn y byd, ac yn gyffredinol aseswyd bod 81% o'n gweithgareddau ymchwil gyda'r gorau yn y byd neu'n 'Rhagorol yn Rhyngwladol'.
Mae ein staff yn cynnal ymchwil ac yn darparu goruchwyliaeth ar gyfer PhD mewn Cerddoleg, Cyfansoddi, Perfformio ac Iechyd a Lles. Yn y meysydd bras hynny, mae gennym gryfderau allweddol o ran Cerddoriaeth Gynnar; Cerddoriaeth yr 20fed a’r 21ain Ganrif; Golygu Cerddoriaeth; Cerddoriaeth Cymru; Cyfansoddi Acwsmatig ac Electroacwstig; Cerddoriaeth Ffilm; Y Celfyddydau Sonig; Perfformio Cyfoes; Perfformiad Rhyngweithiol gydag Electroneg.
Mae'r rhan fwyaf o'r staff yn weithgar mewn mwy nag un maes ac yn aml maent yn ymwneud â phrojectau ymchwil gyda chydweithwyr sy'n gweithio mewn disgyblaethau eraill.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.