Clustffonau a llyfr ar ddesg gyda baner Ffrainc

Ffrangeg

Darganfyddwch ein Cyrsiau Israddedig

Dod o hyd i gwrsDiwrnod Agored

 

 

Pam Astudio Ffrangeg?

Yn amgylchedd byd-eang heddiw, ni fu arbenigedd mewn ieithoedd modern erioed yn bwysicach. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi gwybodaeth ryngddiwylliannol a sgiliau amlieithog yn fawr a bydd yr elfennau hyn yn rhoi mantais gystadleuol i chi yn y farchnad ryngwladol.

Rydym yn cynnig ystod o gyrsiau ym Mangor sy'n eich galluogi i astudio Ffrangeg yn unig neu fel rhan o radd ar y cyd gydag iaith arall, gradd 3 iaith, neu hyd yn oed mewn cyfuniad â phwnc arall.

Bydd dilyn cwrs anrhydedd sengl yn caniatáu i chi ddilyn ystod lawn o opsiynau, gan roi i chi wybodaeth helaeth am dreftadaeth a bywyd Ffrainc fodern, ac ymwybyddiaeth am y byd Ffrengig ehangach.

Bydd cyfuno Ffrangeg gyda phwnc neu iaith/ieithoedd eraill yn rhoi sgiliau uwch i chi yn yr iaith Ffrangeg, ac amrywiaeth eang o wybodaeth arbenigol a manwl am ddiwylliant, cymdeithas a hanes yr iaith honno.

Byddwch yn dysgu mewn dosbarthiadau bach, lle byddwch yn dod i adnabod y staff a'ch cyd-fyfyrwyr mewn awyrgylch cyfeillgar. Ar yr un pryd, mae ein hystod fawr ac amrywiol o fodiwlau yn eich galluogi i deilwra eich gradd i'ch anghenion personol.

Mae nifer o'n cyrsiau'n eich galluogi i astudio Ffrangeg fel dechreuwrMae'r dewis hwn ar gael ar gyfer nifer o'n graddau lle mae Ffrangeg wedi'i chyfuno â phwnc arall Am ragor o fanylion gweler ein gwybodaeth am gyrsiau.

Byddwch yn elwa o ganolfan Ieithoedd Modern ac offer cyfieithu pwrpasol ar y safle.

Proffil fideo myfyrwyr - Sophie James

Mae Sophie yn astudio Iaith Saesneg a Ffrangeg drwy'r gyfrwng Gymraeg yn Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Ieithoedd Modern. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Ieithoedd Modern llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Ieithoedd Modern ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Ieithoedd Modern ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Ein Hymchwil o fewn Ffrangeg

Ein Hymchwil Mae ein proffil ymchwil rhyngwladol mewn ieithoedd modern yn deillio o waith deinamig ein staff academaidd ac ymchwil, sydd wedi creu projectau o bwys, yn unigol ac mewn cydweithrediad ag eraill, ym meysydd hanes, diwylliannau a gwleidyddiaeth y byd Ffrengig, Sbaenaidd, Almaenig ac Eidalaidd, gydag arbenigedd cynyddol mewn Astudiaethau Cyfieithu ac Astudiaethau Tsieinëeg. 

Rydym yn falch o'n perfformiad cryf yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil y Llywodraeth (REF 2014), a farnodd fod 76% o'n hymchwil yn rhyngwladol ragorol neu gyda'r gorau yn y byd, gyda chanlyniadau nodedig iawn o ran effaith ein hymchwil. 

Mae gennym gryfderau ymchwil arbennig yn y meysydd canlynol: safbwyntiau ôl-drefedigaethol at ddiwylliannau Ffrengig a Sbaenaidd, gwleidyddiaeth cofio a choffáu, llên teithio, astudiaethau Catalanaidd a Galisaidd, troseddu trefnedig yn yr Eidal, cyfieithu, grym a disgwrs beirniadol, ffilm a hunaniaeth genedlaethol, diwylliant poblogaidd a chomics, diwylliannau materol a thestunau materol, diwylliannau gweledol a chelf gyfoes.

Mae ein myfyrwyr yn elwa o gymuned ymchwil fywiog a chynhwysol. Nid yn unig mae ein hymchwil yn goleuo ein haddysgu, rydym hefyd yn cynnal Fforwm Ymchwil cyffrous bob tymor, sy'n cynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys sgyrsiau gan ysgolheigion gwadd a'n staff ymchwil a myfyrwyr ein hunain, cyfarfodydd lansio llyfrau a pherfformiadau celf, cerddoriaeth a barddoniaeth.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Cysylltu â ni

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?