Goleudu South Stack ar Ynys Mon

Daearyddiaeth

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY YMCHWIL

Darganfyddwch fwy am y cyfleoedd ymchwil o fewn Daearyddiaeth

Pam Astudio Daearyddiaeth?

  • Yn y  30 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Addysg Daearyddiaeth (Times/Sunday Times Good University Guide 2018)

Mae ein graddedigion yn hynod gyflogadwy (Times Higher Education Survey, 2019) am ein bod yn cynnig dealltwriaeth ddaearyddol eang, integreiddiol i'n myfyrwyr ac mae’r cymwyseddau allweddol rydym yn eu haddysgu (datrys problemau, meddwl yn feirniadol a dadansoddol) yn eu gwneud yn unigryw. Mae ein cyrsiau'n gyfle i astudio amrywiaeth eang o bynciau dynol, ffisegol ac amgylcheddol, ond hefyd i gael hyfforddiant da mewn nifer o ddulliau ymchwil (maes a labordy). Bydd daearyddwyr yn meithrin sgiliau technegol ac ymarferol arbenigol yn ogystal â sgiliau trosglwyddadwy a phroffesiynol.

Mae ein staff yn weithgar mewn ymchwil, a byddant yn rhannu eu brwdfrydedd a'u gwybodaeth bwnc gyda chi. Mae ein modiwlau’n adlewyrchu diddordebau staff ac mae'r pynciau hyn yn cynnwys afonydd/amgylcheddau arfordirol, ardaloedd gwledig-trefol, anghydraddoldebau cymdeithasol, geoberyglon, llywodraethiant, modelu amgylcheddol, eigioneg, gwaddodeg a chynaliadwyedd. 

Mae ein tîm mawr yn ymgymryd ag ymchwil arloesol gyda sefydliadau academaidd eraill, grwpiau anllywodraethol a chymunedau ar draws y byd. Yn ogystal, mae gan y tîm Daearyddiaeth gysylltiadau gwych ac maent yn cymryd rhan mewn gweithgareddau i ennyn diddordeb grwpiau lleol ac ysgolion ledled y Deyrnas Unedig; rydym yn hyrwyddo gwyddoniaeth yn y gymdeithas. Rydym hefyd wedi ein lleoli yn un o'r ardaloedd prydferthaf i astudio Daearyddiaeth, gyda Pharc Cenedlaethol Eryri ar garreg y drws. Fyddai dim modd cynnig amgylchedd mwy ysgogol a bywiog i astudio Daearyddiaeth ynddo.

Cyfleoedd gyrfa mewn Daearyddiaeth

Mae gradd mewn Daearyddiaeth yn gallu arwain at ystod eang o lwybrau gyrfa a gwahanol fathau o swyddi. Mae gan ein daearyddwyr bersbectif integreiddiol ar wyddorau cymdeithas a gwyddorau naturiol, ac mae hyn yn eu gwahaniaethu oddi wrth ddisgyblaethau eraill. Mae ganddynt gyfuniad o sgiliau trosglwyddadwy sy'n eu gwneud yn hynod gyflogadwy. Aiff graddedigion ymlaen i weithio fel ymgynghorwyr amgylcheddol, cynllunwyr tref/argyfwng, athrawon, syrfewyr, swyddogion cynaliadwyedd/ailgylchu, dadansoddwyr data, neu swyddogion/cartograffwyr Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol. Byddant hefyd yn cael swyddi mewn busnes, cyllid ac adnoddau dynol, yn ogystal â marchnata, cysylltiadau cyhoeddus a gwerthu. Mae’r cyflogwyr yn cynnwys y Gwasanaeth Sifil, llywodraeth leol, elusennau/cyrff anllywodraethol, asiantaethau neu ymgyngoriaethau diogelu'r amgylchedd, a chwmnïau preifat.

Ein Hymchwil o fewn Daearyddiaeth

Mae gennym dîm staff amlddisgyblaethol sydd ag amrywiaeth o arbenigeddau'n cynnwys amgylcheddau rhewlifol a morol, daearyddiaeth fwyd a dad-ddofi. Mae ein staff yn ymgymryd ag ymchwil arloesol gyda sefydliadau academaidd eraill, grwpiau anllywodraethol a chymunedau ar draws y byd. Mae diddordebau staff yn cynnwys llygredd afonol, cynhesu yn yr Arctig, peryglon arfordirol, natur a chymdeithas, tlodi bwyd, systemau gwaddodol tanfor, a diwylliant brwdfrydedd. Mae ein staff yn weithgar yn y meysydd ymchwil canlynol;

Mae ymchwil daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor yn ymdrin â gwaith dynol a ffisegol, ac mae ffocws gref ar agweddau rhyngddisgyblaethol a chymhwysol, gan roi sylw i faterion polisi a chynnal ymchwil weithredol gyda grwpiau o randdeiliaid.

Rydym yn gweithio mewn nifer o gyd-destunau yn rhyngwladol, gan astudio prosesau a rhyngweithiadau gwahanol - o rai byd-eang i rai rhanbarthol, ac i achosion safle-benodol.

Mae'r pynciau dan sylw’n cynnwys: 

  • Newid defnydd tir yng nghefn gwlad ac achosion dadleuol (e.e. Brexit a dad-ddofi tir)
  • Cymunedau cynaliadwy, twristiaeth ac eco-ddatblygiadau (e.e. gwyliau bwyd a dulliau sy'n seiliedig ar natur)
  • Y cysylltiadau rhwng natur a bodau dynol a llywodraethiant amgylcheddol (e.e. taliadau am wasanaethau ecosystemau a choedwigaeth gymdeithasol)
  • Gwerthoedd bwyd, cyfiawnder a thlodi (e.e. banciau bwyd a rhwydweithiau ailddosbarthu)
  • Dulliau cyfranogi, gwyddoniaeth dinasyddion a gwleidyddiaeth gwybodaeth (o arolygon ar ddyfeisiau symudol i ddadleuon ynglŷn ag ôl-wirionedd)
  • Ymateb hirdymor afonydd i newid amgylcheddol
  • Geoarchaeoleg amgylcheddau llifwaddodol
  • Geomorffoleg prosesau
  • Ail-lunio amgylcheddau rhewlifol y ddaear
  • Gwyddor Dalgylchoedd a Modelu
  • Geocemeg llifwaddodol ac effaith cynlluniau Ynni Dŵr Pwmpio ar systemau afonydd.
Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?