Traed babi newydd-anedig

Bydwreigiaeth

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY DDYSGU

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Bydwreigiaeth
Tiwtorial bydwreigiaeth

Pam astudio Bydwreigiaeth?

Rôl y fydwraig wrth hybu genedigaeth normal, ffisiolegol yw prif ffocws y cwrs hwn a Phrifysgol Bangor yw’r unig brifysgol yng Nghymru sydd ag achrediad Menter Cyfeillgar i Fabanod (BFI) UNICEF. Ym Mangor bydd myfyrwyr yr MSc Astudiaethau Bydwreigiaeth yn datblygu eu gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o elfennau allweddol o rôl bydwraig gan gynnwys:

  • Rôl iechyd cyhoeddus y fydwraig
  • Sut y gellir hybu a gwneud y mwyaf o eni plant ffisiolegol o fewn gwasanaethau mamolaeth cyfoes.
  • Sut y gellir optimeiddio'r profiad geni i bob merch a'u teuluoedd.
  • Ymchwilio i ddulliau o fewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth feirniadol o rôl y fydwraig wrth wella iechyd a lles a’r sgiliau sydd eu hangen i wneud y gorau o’r profiad geni. Bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau ymhellach wrth weithio gyda ac ar gyfer menywod a chymunedau i wneud y gorau o'r profiad geni, hyrwyddo a diogelu cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau unigolion. Bydd y rhai sy'n symud ymlaen i'r MSc Astudiaethau Bydwreigiaeth llawn hefyd yn dysgu sut i gynhyrchu a dehongli tystiolaeth ymchwil berthnasol a'i rhoi ar waith yn ymarferol.

 

Cyfleoedd Gyrfa

Yn ogystal â rhoi gwybodaeth a sgiliau ychwanegol i unrhyw fydwraig a fyddai’n gwella ei hannibyniaeth o fewn ymarfer, bydd y rhaglen hon yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i fydwragedd i chwilio am gyfleoedd cyflogaeth ar lefel uwch, er enghraifft: fel bydwraig ymgynghorol, datblygu ymarfer a rolau arwain.

Myfyrwyr bydwreigiaeth yn hyfforddi ar ddymi

Cyfleoedd Ymchwil

Mae’r academyddion sy'n ymwneud â'r MSc yn cymryd rhan weithredol mewn ymchwil ac mae ganddynt gysylltiadau helaeth â chyrff allanol, sy'n cael eu defnyddio'n llawn i sicrhau bod y modiwlau'n berthnasol i'r amgylchedd gwaith ac ymchwil modern y bydd graddedigion yn mynd iddo.. Maent i gyd hefyd yn Fydwragedd profiadol sydd â chysylltiadau gweithredol o hyd â'r Bwrdd Iechyd lleol gan sicrhau bod arfer clinigol modern yn rhan annatod o'r rhaglen.

Related Subject Areas

You may also be interested in these related subject areas.

Related Subject Areas

You may also be interested in these related subject areas.