Gweithiwr Cymdeithasol yn gwenu ar ddyn oedrannus, yn eistedd ar soffa

Gwaith Cymdeithasol

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY DDYSGU

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Gwaith Cymdeithasol
Merch mewn cadair olwyn, tu allan gyda gweithiwr cymdeithasol

Pam astudio Gwaith Cymdeithasol?

  • Mae gwaith cymdeithasol yn ymwneud â datblygu ystod o sgiliau proffesiynol y mae galw mawr amdanynt, megis sgiliau cyfathrebu, ysgrifennu adroddiadau, dadansoddi a threfnu
  • Mae gwaith cymdeithasol yn broffesiwn ymatebol ac felly mae’r rhaglen yn ymateb i’r materion cyfoes a chyfredol sy’n effeithio ar gymunedau a’r boblogaeth ar y pryd
  • Mae ffocws clir ar gysylltu theori ag ymarfer, ac mae’r cyfleoedd lleoliad yn galluogi myfyrwyr i wneud cysylltiadau a datblygu eu sgiliau wrth weithio gyda phobl
  • Mae dod yn weithiwr cymdeithasol yn daith o ddatblygu a myfyrio, a bydd y cwrs yn helpu i lunio eich hunaniaeth eich hun fel gweithiwr cymdeithasol
  • Byddwch yn elwa o gefnogaeth ac arweiniad tiwtoriaid profiadol

Cyfleoedd Gyrfa

  • Mae'r cymhwyster MA Gwaith Cymdeithasol yn galluogi graddedigion i ymarfer fel Gweithiwr Cymdeithasol cofrestredig o fewn unrhyw faes Gwaith Cymdeithasol oherwydd natur generig y rhaglen.
  • Mae cysylltiadau uniongyrchol y rhaglen â thri awdurdod lleol yn cynnig cyfle clir i raddedigion fynd yn syth i’r proffesiwn ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus
  • Mae gweithwyr cymdeithasol yn gweithio ar draws ystod eang o dimau / lleoliadau, gan gynnwys:
    • Plant a Theuluoedd
    • Oedolion mewn perygl
    • Anabledd
    • Iechyd meddwl
    • Maethu a Mabwysiadu
    • Gwasanaethau Statudol
    • Gwasanaethau ac Elusennau 3ydd sector
    • Addysg a hyfforddiant
Plant yn eistedd ar soffa, yn gwenu ar weithiwr cymdeithasol

Ymchwil

Fel rhaglen meistr, gwahoddir myfyrwyr i ddewis pwnc i ymchwilio iddo'n fanylach, i'w gyflwyno fel eu traethawd hir. Mae sgiliau ymchwil o'r fath yn ychwanegu at y set sgiliau gwaith cymdeithasol proffesiynol, a fydd hefyd yn eu gwasanaethu ymhell y tu hwnt i elfen academaidd y rhaglen fel gweithwyr proffesiynol mewn ymarfer gwaith cymdeithasol.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?