Astudio sleidiau gyda microsgop.

Gwyddorau Meddygol

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY DDYSGU

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Gwyddorau Meddygol

8fed

yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Gwyddor Biofeddygol)

Complete University Guide 2024

6ed

yn y DU am Werth Ychwanegol (Gwyddor Biofeddygol)

Guardian Good University Guide 2023

9fed

yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Gwyddor Biofeddygol)

Complete University Guide 2024

9fed

yn y DU am Anatomeg a Ffisioleg

Times Good University Guide 2023

Pam Astudio Gwyddorau Meddygol?

Er mwyn llwyddo i gael gwaith ym maes gwyddorau meddygol, amgylcheddau clinigol ac ymchwil a byrddau iechyd cenedlaethol a diwydiannau cysylltiedig ag iechyd mae'n rhaid bod yn weithwyr ac arweinwyr aml-broffesiynol hynod flaengar a medrus. Bydd ein hathrawon, ymchwilwyr  ac arbenigwyr sy'n cynnig darpariaeth iechyd cymwys a medrus yn cyflwyno'r lefel ofynnol o addysg ôl-raddedig i'ch galluogi i ddiwallu'r anghenion hyn.  

  • Mae ein graddau yn y Gwyddorau Meddygol yn seiliedig ar ymarfer meddygol modern ac fel un o'n graddedigion, bydd gennych y sgiliau i ddilyn amrywiaeth o lwybrau at yrfa clinigol, meddygol a gofal iechyd.  
  • Mae ein hysgol fach, gyfeillgar yn caniatáu ichi ddod i adnabod ein staff academaidd yn dda iawn a chael cymorth academaidd a bugeiliol yn hawdd, fydd yn eich galluogi i berfformio ar eich gorau. Mae ein staff yn cynnwys academyddion, clinigwyr ac ymchwilwyr gyda phrofiad sylweddol yn y GIG, mewn prifysgolion ac ym myd masnach. 
  • Mae ffocws a chwmpas ein cyrsiau yn amrywio fel y gellwch ddod o hyd i arbenigedd sy'n addas i'ch diddordebau a'ch dyheadau gyrfaol. Mae ein graddau meistr wedi eu gwreiddio'n gadarn yn yr ymchwil diweddaraf, ac mae'r cynnwys yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd er mwyn sicrhau y byddwch yn cael y wybodaeth ddiweddaraf mewn maes sy'n symud yn gyflym.  
  • Byddwch yn profi amrywiaeth eang o addysgu wrth astudio ym Mhrifysgol Bangor, gan gynnwys darlithoedd a seminarau rhyngweithiol, astudio unigol dan gyfarwyddyd, cefnogaeth astudio un i un a nifer o gyfleoedd i gymhwyso gwaith ymarferol, mewn sesiynau ymarferol strwythuredig unigol a grwpiau bach. 
  • Arbenigedd sy'n ymdrin â phob maes allweddol o arferion labordy ac arbenigeddau gwyddorau biofeddygol ôl-raddedig.  
  • Byddwch yn cymryd rhan mewn prosiectau ymchwil arloesol sy'n gysylltiedig â meddygaeth gan olygu y bydd eich set sgiliau a'ch dealltwriaeth o'r radd flaenaf

Hefyd mae gennym gysylltiadau rhagorol â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, un o'r byrddau iechyd mwyaf yn y DU, a Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin, yr elusen ganser flaenllaw ar gyfer gogledd orllewin Lloegr a gogledd Cymru. Mae rhai darlithwyr yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac i'r brifysgol ar yr un pryd sy'n golygu y cewch eich dysgu gan staff a darlithwyr er anrhydedd sydd ag 'ymbarél' cynhwysfawr o sgiliau ac arbenigedd - o fainc labordy i erchwyn gwely cleifion.  

Cyflawni'ch nodau 

Felly mae astudio gyda ni yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol yn cynnig cyfle unigryw i chi ddysgu a chyflawni'ch nodau addysgol. Gallwn eich helpu i ddod yn weithiwr neu'n arweinydd aml-broffesiynol llwyddiannus, rhagweithiol, medrus, gyda'r sgiliau a'r wybodaeth am gymhwyso meddygaeth ymarferol sy'n ofynnol ar gyfer eich gyrfa newydd lwyddiannus neu'r cam nesaf ar yr ysgol gydag amrywiaeth o gyflogwyr meddygol allweddol. 

Cyfleoedd Gyrfa mewn Gwyddorau Meddygol

Bydd ein graddau ôl-radd MSc yn eich paratoi at yrfa yn y dyfodol mewn amrywiaeth o swyddi sy'n gysylltiedig â meddygaeth a biwyddoniaeth gan gynnwys (dolenni gwe allanol i dudalennau Saesneg): 

Byddwch mewn sefyllfa gref i gystadlu'n llwyddiannus am astudio ar lefel PhD, a swyddi, ym Mhrifysgolion, sefydliadau ymchwil a diwydiannau iechyd yn y DU ac yn rhyngwladol. Bydd galw am eich sgiliau hefyd gan gyflogwyr mawr fel y diwydiant fferyllol, ymchwil feddygol a chyrff iechyd cyhoeddus. 

Yn y 10 Uchaf

am Ansawdd Ymchwil

Complete University Guide 2022

Ein Hymchwil o fewn Gwyddorau Meddygol

Yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol, mae ein hymchwil yn defnyddio dulliau blaengar i roi sylw i gwestiynau sylfaenol ym maes meddygaeth a/neu ddatblygu cymwysiadau i ddiwallu anghenion clinigol difrifol. Mae gennym y nod cyffredinol o wella llwybr y claf, naill ai trwy gyfrannu gwybodaeth newydd i lenwi bwlch pwysig mewn gwybodaeth feddygol neu ddatblygu cymwysiadau sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at wella iechyd a lles.  

Rydym yn canolbwyntio'n gryf ar ymchwil canser lle mae ein timau ymchwil nid yn unig yn archwilio'r prosesau cymhleth sy'n arwain at ddatblygiad, cynnydd ac ymwrthiant canserau i therapïau, ond maent hefyd yn datblygu'r sylfaen ar gyfer therapïau newydd a thechnolegau monitro cleifion. Mae'r timau ymchwil canser wedi'u lleoli yn Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin, sy'n ein hintegreiddio â'r rhwydweithiau ymchwil ehangach mewn prifysgolion ymchwil eraill ledled y byd a darparwyr gofal iechyd. Mae hyn yn sicrhau bod ein hymchwil yn berthnasol i anghenion cleifion canser yng Nghymru a thu hwnt. 

Mae arbenigedd ein staff yn cwmpasu amrywiaeth o feysydd ymchwil gan gynnwys Cymwysiadau a therapïau clinigol mewn Imiwnoleg Ddynol ac awtoimiwnedd; Geneteg Foleciwlaidd; Geneteg Feddygol; Canser; Microbioleg Feddygol; Biocemeg Feddygol; Anatomeg ac Arferion Clinigol; Nanodechnoleg.  

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?