Pentwr o lyfrau

Llenyddiaeth Saesneg

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY DDYSGU

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Llenyddiaeth Saesneg

Pam Astudio Llenyddiaeth Saesneg?

Rydym yn cynnig amgylchedd deniadol a chefnogol ar gyfer astudio ôl raddedig, gan ganolbwyntio ar addysgu grwpiau bach a goruchwyliaeth un i un.

Mae ôl-raddedigion yn gweithio’n agos â staff academaidd mewn cymuned ymchwil sy’n cymell cyfnewid a gweithgarwch rhyngddisgyblaethol.

Mae'r gweithgareddau ymchwil sydd wedi eu dechrau ac sy'n cael eu cynnal gan ein myfyrwyr yn cynnwys: cynhadledd ôl-radd flynyddol ar astudiaethau'r oesoedd canol a chanoloesoldeb; gweithdy ysgrifennu i staff a myfyrwyr ôl-radd; cyfnodolyn ôl-radd ar-lein; a fforwm ymchwil ôl-radd.

Celfyddydau a Diwylliant: Bydd y cysylltiadau agos sydd gennym â theatrau lleol, grwpiau barddoniaeth a chymdeithasau myfyrwyr yn golygu bod digon o bethau i fynd â'ch bryd.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Llenyddiaeth Saesneg

Mae astudio llenyddiaeth yn agor byd llawn ysbrydoliaeth, yn meithrin gwybodaeth a hefyd yn helpu i ddatblygu sgiliau sy'n hanfodol ar gyfer yr amgylchedd byd-eang sydd ohoni.

Mae ein cyrsiau'n baratoad gwych ar gyfer cymryd rhan mewn rhaglenni doethurol ac yn ychwanegu at gymwysterau'r rhai sy'n bwriadu dilyn gyrfa mewn meysydd diwylliannol a chreadigol megis cyhoeddi, gweinyddu'r celfyddydau, y cyfryngau, cyfathrebu ac addysgu. Gall y profiad o astudiaeth lenyddol ôl-radd hefyd wella cyflogadwyedd at y dyfodol, trwy feithrin sgiliau trosglwyddadwy megis: y gallu i wneud gwaith ymchwil annibynnol; cwblhau dadansoddiad datblygedig o destunau a dadleuon; a chyflwyno syniadau yn rhugl ar ffurf ysgrifenedig a llafar.

Ein Hymchwil o fewn Llenyddiaeth Saesneg

Mae cydnabyddiaeth dda i ansawdd ein hymchwil, sydd gyda'r orau yn y byd, gan olygu ein bod wedi ein rhestru ymhlith y 10 prifysgol orau ar gyfer llenyddiaeth Saesneg yn y wlad am ddwyster ymchwil, gyda dwy ran o dair o'n hymchwil yn y categorïau 'gyda'r orau yn y byd' ac yn 'rhagorol yn rhyngwladol' (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014).  

Roedd cryfderau ymchwil yr ysgol yn troi o amgylch cyfnodau a meysydd astudio penodol: llenyddiaeth ganoloesol a'r cyfnod modern cynnar, gan gynnwys golygu testunau; hanes y llyfr a chyhoeddi; llên Saesneg Cymru; llenyddiaeth rhamant a modern; ac ysgrifennu creadigol, gyda dulliau penodol wedi'u llywio gan rywedd, dosbarth cymdeithasol, ideoleg, yn ogystal â'r cysylltiadau rhwng llenyddiaeth a chelfyddyd, a llenyddiaeth a chrefydd.  Rydym ymhlith yr ugain adran Llenyddiaeth Saesneg uchaf yn y Deyrnas Unedig am ein cyhoeddiadau.

Mae'r canolfannau a'r sefydliadau ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, neu’r rhai y mae gennym bartneriaeth â nhw, yn cynnwys: Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar, sef sefydliad ymchwil cydweithredol rhwng Prifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth; Canolfan R.S. ThomasY Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, sef canolfan ar gyfer ymchwil a chyfnewid rhyngwladol ym maes Astudiaethau Arthuraidd sy'n tynnu ar gryfderau hanesyddol y Brifysgol yn y maes; Canolfan Stephen Colclough ar Hanes a Diwylliant y Llyfr,  sydd wedi'i leoli o fewn Llyfrgell a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol ac sydd yn ganolbwynt i astudiaeth o'r llyfr fel gwrthrych materol.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?