Llong y Prince Madog allan ar y môr, gydag effaith hudolus

Brwydro yn erbyn COVID-19

Effaith ein hymchwil

Pan darodd y pandemig byd-eang am y tro cyntaf, ymchwilwyr Prifysgol Bangor oedd y cyntaf i ddatblygu a defnyddio’r gallu i fonitro Covid-19 mewn dŵr gwastraff yn y Deyrnas Unedig. 

Mae hyn bellach yn darparu tystiolaeth ar y pryd o lefelau haint cymunedol. 

Gyda’r tîm bellach yn cydweithio ledled y Deyrnas Unedig, Nigeria a De Affrica, maent yn gweithredu systemau monitro ledled y byd, gan ddarparu gwybodaeth hanfodol yn sail i atebion lleol. 

Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid fel y gallant gynyddu technegau a phrotocolau a ddatblygwyd i gadw golwg ar SARS-CoV-2 a firysau eraill yn y Deyrnas Unedig ac yn rhanbarthol, gan alluogi cymunedau, asiantaethau iechyd cyhoeddus a llywodraethau i geisio lleihau risg a rheoli risgiau iechyd cenedlaethol a byd-eang.

Dr Shelagh Malham,  Cyd-arweinydd y Project, Prifysgol Bangor

Bydd y prosiect hwn yn torri tir newydd i ni yn Nigeria, ac mae cynnwys dŵr wyneb yn hollbwysig yma o ystyried pa mor brin yw gweithfeydd trin dŵr gwastraff a pharhau i ollwng carthion heb ei drin i gyrff dŵr.

Dr Vincent Chigor,  Prifysgol Nigeria

Mae dŵr gwastraff yn cynnwys holl gynnyrch gwastraff ein cymdeithas ac nid yw’n dweud dim celwydd am y ffordd yr ydym yn ymddwyn ac yn byw.

Y Athro David Jones,  Cyd-arweinydd Prosiect ac Athro Gwyddor Pridd ac Amgylcheddol

Mae hwn yn gyfle gwych i gael gwell dealltwriaeth o faint ac amrywiaeth firysau dynol yn yr amgylchedd.

Dr Kata Farkas,  Uwch Wyddonydd Ymchwil, Prifysgol Bangor

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?