Mae Gwasanaethau Campws yn cyffwrdd â phob agwedd ar eich profiad ym Mhrifysgol Bangor. Boed yn goffi bach, yn ymarfer corff, neu’n gymorth gan y timau diogelwch neu’r neuaddau, rydym ar gael i helpu.
Parcio ar Campws
Mae angen trwydded barcio i barcio ym meysydd parcio’r Brifysgol. Mae trwyddedau ar gael i’r staff, y myfyrwyr, ymwelwyr a chontractwyr sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd gofynnol. Cofiwch, dyw trwydded barcio DDIM yn sicrhau lle parcio i chi.
Yn ôl Rheoliadau Parcio’r Brifysgol mae’n rhaid bod trwydded ddilys ar unrhyw gerbyd a gaiff ei barcio ym meysydd parcio’r Brifysgol ac mae’n rhaid parcio mewn llecyn parcio dynodedig.
Cerbydau Trydan
Mae mannau gwefru cerbydau trydan ar gael i ddefnyddwyr awdurdodedig meysydd parcio ar sail y cyntaf i'r felin - mae rheolau mynediad parcio arferol a ffioedd yn berthnasol.
SWARCO E.Connect yw’r darparwr dynodedig gwefru cerbydau trydan ym Mhrifysgol Bangor. Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ewch i Evolt Network.
Sylwch na fydd ein tîm Desg Gymorth yn gallu cynorthwyo gydag ymholiadau gwefru cerbydau trydan. Gofynnwn yn garedig i chi gysylltu â SWARCO E. Connect yn uniongyrchol ar rif eu llinell gymorth 02085158444, neu drwy eu gwefan.
Mi gewch chi drwyddedau ymwelwyr gan yr ysgol/yr adran berthnasol i'w rhoddi yn eich car chi pan fyddwch chi'n parcio ar y campws. Pan ddewch chi at rwystr mynediad y maes parcio, pwyswch y botwm intercom i ddweud eich bod wedi cyrraedd.
Cofiwch fod Rheoliadau Parcio'r Brifysgol yn gymwys i bob car sy'n parcio ar y campws.
Gofynnwn i chi barcio mewn man parcio dynodedig bob amser, a pheidiwch â pharcio ar linellau melyn dwbl a mannau lle ceir llinellau croes.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â pharcio ymwelwyr, cysylltwch â ni ar 01248 382783 neu ar ebost.