Helo Bawb
Fy enw i yw Faith ac rwy'n fyfyriwr Swoleg gydag Ymddygiad Anifeiliaid.
Dw i'n mwynhau darllen a gwylio ffilmiau yn enwedig yn sinema Pontio! Mae mynd allan i natur yn un o fy hoff bethau, boed hynny'n heicio neu'n mynd am dro ar hyd y pier. Dw i wrth fy modd yn rhoi cynnig ar bethau newydd a dysgu sgiliau newydd.
Rydw i'n gyffrous iawn am gwrdd â phobl newydd a chymryd rhan yn y digwyddiadau eleni. Fedra i ddim aros am y sinema awyr agored ac unrhyw ddigwyddiadau bwyd!