Fy enw i yw Priya.
Mi fyddaf yn un o’ch Cydlynwyr Campws Byw eleni! Rydw i'n astudio am radd MSc mewn seicoleg cwnsela yma ym Mhrifysgol Bangor.
Rydw i'n berson awyr agored yn bennaf, rydw i wrth fy modd yn archwilio llefydd newydd ac yn mwynhau gwahanol fathau o fwyd. Mae rhai o fy hobïau yn cynnwys chwarae pêl-fasged, coginio ac rydw i wrth fy modd yn gwylio F1. Fedra i ddim aros i gwrdd â chi gyd yn y digwyddiadau ac o amgylch y campws, mae croeso i chi ddweud helo lle bynnag y gwelwch chi fi. Gawn ni flwyddyn anhygoel gyda'n gilydd!