Helo! Sara ydw i, myfyrwraig Bioleg Môr a Swoleg o wlad y fampirod ~ Rwmania!
Ffaith ddiddorol amdanaf i yw fy mod i'n siarad tair iaith wahanol ac yn caru bwyd yn fawr iawn. Ni waeth o ble mae'n dod, rydw i bob amser yn gyffrous i roi cynnig ar rywbeth newydd!
Mae rhai o fy hoff hobïau yn cynnwys gwirfoddoli - mynd allan i natur i wneud gwahaniaeth, coginio, dawnsio, dysgu, ac yn bwysicaf oll, cwrdd â phobl newydd o bob cwr o'r byd. Rwy'n gyffrous iawn i gwrdd â chi gyd yn y flwyddyn academaidd sydd i ddod. Mi welwn ni chi’n fuan!