Fy ngwlad:
Arthurian Scenes, charging knights, Lancelot slaying a dragon, Guinevere, Mordred, and King Arthur

Canolfan Astudiaethau Arthuraidd Blog

Ysbrydoli cyfnewid ymchwil ryngwladol mewn Astudiaethau Arthuraidd, o'r canoloesoedd i'r modern

'Lle’r Ydym yn Perthyn: Arthur ym Mhrifysgol Bangor ac mewn Chwedlau Lleol’

Dros y misoedd diwethaf, bu grŵp o fyfyrwyr MA o amrywiol gyrsiau’n gweithio ar broject o'r enw 'Lle’r Ydym yn Perthyn: Arthur ym Mhrifysgol Bangor ac mewn Chwedlau Lleol', a arweiniodd at gynnal diwrnod o weithgareddau i ysgol leol ar 19 Mawrth 2025. Bûm yn gweithio hefyd ar y project hwnnw fel rhan o interniaeth ôl-radd gyda'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd. Nod y diwrnod oedd parhau ag ethos projectau blaenorol y Ganolfan. Bu’r rheini’n annog pobl ifanc ers tro byd i ddysgu am chwedlau Arthur, y cysylltiad â thirwedd y Gogledd o’u cwmpas ar bob tu, a sut y gall eu helpu i feddwl amdanynt eu hunain, eu cryfderau, a’u hamcanion.

Yr ystyriaeth bwysicaf ar ddechrau'r project oedd sut mae addasu'r wybodaeth i'r gynulleidfa. Beth yw’r ffordd orau o gyflwyno chwedlau’r Brenin Arthur i gynulleidfa iau? Ble mae dechrau esbonio corff mor sylweddol o ddiwylliant a llenyddiaeth mewn modd addysgiadol, sydd hefyd yn hwyliog ac yn hwylus? Mae chwedlau Arthur yn faes eang a gwrthgyferbyniol, a dyna pam maent mor doreithiog i'w hastudio, ac nid yw'n hawdd ceisio eu cyflwyno'n gryno!

O’r herwydd, y dasg gyntaf oedd penderfynu pa ddelweddau, pa gymeriadau, a pha naratifau a fyddai’n derbyn y sylw pennaf. Byddai cast cyson ac adnabyddadwy o gymeriadau’n helpu gwneud y chwedl yn ddiddorol ac yn hygyrch i grŵp ifanc y mae ganddynt lefelau amrywiol o wybodaeth am Arthur. O’r herwydd, aethom ati i gadw’r elfennau’n gyson drwyddi draw ac ailddefnyddio’r un cast bach o gymeriadau (Arthur, Myrddin, Gawain, Morgan Le Fay, ac Arglwyddes y Llyn) yn ein cwisiau, ein gweithgareddau, ein delweddau ac wrth adrodd straeon. Aethom drwy’r cronfeydd data helaeth o’r delweddau sydd yn Archifau Bangor a’r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, a chwilio am ddelweddau a naratifau diddorol o’r casgliadau. Mi wnaethon ni ddarganfod llyfrau plant yng nghasgliad Sir y Fflint-Harries i’w darllen i’r grŵp, a chreu llyfryn o weithgareddau i’w defnyddio ar y diwrnod ac i fynd â nhw adref gyda nhw.

Cafodd llyfryn ei lunio a oedd yn canolbwyntio ar y gweithgareddau y byddai'r myfyrwyr yn cymryd rhan ynddynt ar y diwrnod. Ymhlith y rheini roedd cwis lle gallent ddychmygu i ba un o'r cast Arthuraidd roedden nhw debycaf, map o’r Gogledd a oedd yn nodi’r safleoedd a’r digwyddiadau Arthuraidd, a chyflwyniad i herodraeth a'r rôl y mae'n ei chwarae mewn hunaniaeth. Ategom y drydedd elfen uchod trwy ymweld â Llyfrgell Shankland i weld yr arfbeisiau sy’n cael eu harddangos yno. Er y bu adeiladau trawiadol y Brifysgol yn help i gyflwyno’r neges ar y diwrnod, roeddem hefyd am i’r llyfrynnau fod yn ddefnyddiol ac yn bwrpasol, a allai grynhoi’r diwrnod a chaniatáu mwy o lwybrau dysgu ar ôl i’r digwyddiad ddod i ben. I’r perwyl hwnnw, mi ddewison ni nifer o ddelweddau a lluniau o’r casgliadau i’w cynnwys fel darluniau dros dudalen gyfan, er mwyn cynnal sgwrs ynglŷn â’r amrywiol ffyrdd y bu pobl yn dychmygu Arthur ac yn ei ddarlunio dros amser.

Yn bwysicaf oll, mi wnaethom ni hefyd gynnwys gweithgaredd i’r myfyrwyr ddylunio eu harfbais eu hunain yn yr ystafell ddosbarth. Gobeithiwn y bydd yn eu hannog i feddwl am y rhinweddau, y gwerthoedd a’r traddodiadau a geir ac a arddangosir yn chwedlau Arthur, ac y gallai hynny eu hysbrydoli i ystyried sut byddent yn eu diffinio eu hunain a’r pethau y maent yn eu gwerthfawrogi yn eu bywydau hwythau. Gobeithiwn y bydd y gweithgareddau’n fodd iddynt weld bod chwedlau Arthur o’u cwmpas ar bob tu heddiw a sut mae bod yn rhan ohonynt.

Roedd yn anodd cynnal cydbwysedd rhwng creu llyfrynnau llawn gwybodaeth, cadw’r cyfarwyddiadau sydd ynddynt yn glir, a sicrhau eu bod yn ddifyr ac yn ddeniadol i’r llygad. Er na welsom broblemau penodol ar y diwrnod, pe bawn yn ei wneud eto, byddwn yn meddwl am ddulliau i wella'r gymhareb rhwng geiriau a delweddau ac i ddarganfod ffyrdd o brofi a yw'r iaith yn gyson addas a hwylus i bawb. Efallai y byddai'n ddefnyddiol clywed adborth oddi wrth y staff dysgu i adolygu deunyddiau unrhyw ddigwyddiadau yn y dyfodol. Bu’r diwrnod ei hun yn hwylus iawn. Roedd gan y myfyrwyr ddiddordeb yn y tasgau yn ogystal â rhannu eu sylwadau am yr wybodaeth a gyflwynwyd. Bu’r penderfyniad i wisgo dillad canoloesol yn boblogaidd iawn hefyd! Agwedd y byddwn yn ei hystyried yn nigwyddiadau’r dyfodol yw cydbwysedd o ran rhoi a derbyn gwybodaeth rhyngom ni a’r myfyrwyr. Er iddynt wrando’n astud iawn ar bob sgwrs a’r esboniadau i gyd, buasai’n braf petai mwy o gyfleoedd i glywed eu meddyliau a'u barn ynglŷn â’r pwnc mewn modd mwy pwrpasol a threfnus na chwestiynau a sylwadau achlysurol.

Bu gweithio ar y project yn gyfle gwych i wella fy sgiliau trefnu a chydweithio a bu’n gyfle i edrych ar fy maes pwnc o wahanol safbwyntiau. Yn sicr mae yna bethau y byddwn yn eu newid pe bawn i'n gwneud fy rhannau innau eto, ond dyna pam ei fod yn brofiad dysgu gwerthfawr. Bu’n ymarfer gwych ar gyfer fy helpu i feddwl yn hyblyg am yr heriau a bu hefyd yn llawer o hwyl!

Symposia a Chynadleddau

Bydd aelodau'r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, yn staff a myfyrwyr ôl-radd, yn cyflwyno yn y gynhadledd hon, a gynhelir ym Mhrifysgol Birmingham ym mis Medi 2018. Mae'r Ganolfan yn noddi un o'r sesiynau, ac fe fydd aelod allanol o'r bwrdd, Dr Samantha Rayner (UCL) yn cyflwyno rhywfaint o ganfyddiadau ei hymchwil i Archifau'r Gymdeithas Arthuraidd Ryngwladol, sydd bellach ym meddiant y Ganolfan. 

Ddydd Iau 28 Mehefin 2018 cynhaliwyd symposiwm undydd y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd dan y teitl 'Chwedlau Arthur yng Nghymru a thu Hwnt / Arthurian Legends in Wales and Beyond' dan nawdd Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth. Roedd y symposiwm yn adeiladu ar bortffolio hirsefydlog o waith ymchwil cydweithredol rhyngwladol.   

Darllenwch y blog yn llawn.

Gweld yr oriel.
 

Fe’i cynhelir bob pedair blynedd ac mae’n cynnig llwyfan ar gyfer arbenigwyr yn holl ystod Astudiaethau Celtaidd – sy’n cynnwys llenyddiaeth, ieithyddiaeth, hanes, archaeoleg, cerddoreg a hanes celf – i ddod ynghyd i rannu ffrwyth eu llafur academaidd.

Ewch i wefan y gynhadledd.
 

Sesiwn Arthuraidd yn y Gyngres Ganoloesol Ryngwladol, Leeds, Gorffennaf 2019
Bydd sesiwn ar anifeiliaid a diwylliant materol mewn astudiaethau Arthuraidd yn cael ei noddi ar y cyd gan y Ganolfan a Dr Renée Ward (Prifysgol Lincoln, y DU) a Dr Melissa Ridley-Elmes (Prifysgol Lindenwood, UDA)

Gweler yr Alwad Lawn am Bapurau.