Fy ngwlad:
Poland trip

Cronfa Bangor yn cefnogi myfyrwyr i gymryd rhan mewn gweithdy ar ddigartrefedd yng Ngwlad Pwyl

Cafodd y myfyrwyr brofiad addysgol, diwylliannol a chymdeithasol anhygoel. Cawsant eu dewis oherwydd eu hangerdd dros gyfiawnder cymdeithasol a'u dyheadau i ddilyn gyrfaoedd yn y gyfraith a gwaith cymdeithasol, a gwnaethant ymuno â myfyrwyr o Wlad Pwyl a'r Almaen i archwilio achosion digartrefedd a sut mae wedi cael ei drin trwy bolisi yng Nghymru a Gwlad Pwyl. Ffurfiwyd rhwydweithiau a phartneriaethau newydd, a fydd yn annog cydweithredu pellach ym meysydd cyfiawnder cymdeithasol. Yn gyffredinol, roedd hon yn daith lwyddiannus iawn gyda chanlyniadau ardderchog.

 

Dr Hefin Gwilym, Darlithydd mewn Polisi Cymdeithasol

Fel myfyriwr blwyddyn gyntaf mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor, roedd y daith i Wlad Pwyl gyda myfyrwyr o’r Almaen a Wlad Pwyl yn brofiad gwerthfawr iawn. Yn fwy na dim, fe wnes i adeiladu perthnasau gyda myfyrwyr rhyngwladol, gan ehangu fy safbwyntiau, gwella fy sgiliau cyfathrebu, a chreu rhwydwaith cefnogol ar gyfer astudio a chydweithio yn y dyfodol. Mae’r profiad hefyd yn ychwanegu gwerth at fy CV, gan ddangos fy mod yn barod i deithio ac i gamu allan o ‘comfort zone’ er mwyn datblygu’n bersonol ac yn academaidd.

Tomos Jones, myfyriwr blwyddyn gyntaf mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol

Mae’n fraint cael bod yn rhan o roi bywyd i’r project yma, a dwi’n ddiolchgar iawn i gyn-fyfyrwyr am gyfrannu at Gronfa Bangor. Eu haelioni nhw sy’n golygu bod myfyrwyr heddiw yn gallu cymryd rhan mewn profiadau trawsnewidiol fel hyn. Mae'n ysbrydoledig gweld bod cefnogaeth o’r fath yn cael effaith barhaol ar sut mae myfyrwyr yn dysgu ac yn tyfu

Persida Chung, Swyddog Datblygu

 

Mae Cronfa Bangor yn cael ei hariannu gan gyfraniadau gan gyn-fyfyrwyr ac yn cael ei rheoli gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr.  Dysgwch fwy am Gronfa Bangor yma.