Mae Cronfa Bangor wedi grymuso myfyrwyr yn yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol i greu a chyflwyno amrywiaeth o fentrau sy'n anelu at wella profiad y myfyrwyr trwy weithgareddau sy'n canolbwyntio ar gyflogadwyedd - wedi'u cynllunio gan fyfyrwyr, ar gyfer myfyrwyr.
Un canlyniad allweddol o'r gefnogaeth hon fu sefydlu Gweithgor Cyflogadwyedd dan Arweiniad Myfyrwyr yr Ysgol. Mae'r grŵp deinamig hwn wedi trefnu Diwrnod Cyflogadwyedd llwyddiannus, gan ymgysylltu â bron i 300 o fyfyrwyr. Amlygodd y digwyddiad ymroddiad rhyfeddol y gymuned fyfyrwyr, gan gynnwys siaradwyr gwadd llawn mewnwelediad, stondinau gyrfaoedd a gwirfoddoli lleol, lluniau proffiliau LinkedIn, a chyngor gyrfa arbenigol. Yn llawn cyfleoedd i fyfyrwyr baratoi ar gyfer eu gyrfaoedd a chyfarfod â chysylltiadau proffesiynol defnyddiol, cafodd y digwyddiad foddhad o 95% gan fyfyrwyr a boddhad o 100% gan gyflogwyr a gymerodd ran.
Mae Cronfa Bangor hefyd wedi cefnogi teithiau cerdded natur a lles sydd ar ddod, diwrnodau sgiliau gwaith maes, a chyfraniadau tuag at drwyddedau llif gadwyn - gan gyfoethogi datblygiad ymarferol a phroffesiynol myfyrwyr ymhellach.
Yn ogystal, mae'r Gweithgor Cyflogadwyedd dan Arweiniad Myfyrwyr wedi'i enwebu am Wobr Cyflogadwyedd Academaidd AGCAS yn y categori 'Mentrau Cyflogadwyedd Cyd- grëedig'. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn dystiolaeth o ymrwymiad y myfyrwyr i hyrwyddo cyflogadwyedd, meithrin twf proffesiynol, a chyd-greu cyfleoedd ystyrlon.
Mae'r cyllid hwn wedi bod yn amhrisiadwy, gan rymuso myfyrwyr i arwain mentrau cyflogadwyedd sy'n fuddiol i'w cyfoedion wrth osod y sylfaen ar gyfer projectau parhaol o fewn yr Ysgol. Mae wedi ein galluogi i greu digwyddiadau a chyfleoedd effeithiol sy'n gwella parodrwydd gyrfa, adeiladu rhwydweithiau proffesiynol, ac ysbrydoli mentrau dan arweiniad myfyrwyr yn y dyfodol.
Dr. Rebecca Jones, darlithydd mewn daearyddiaeth ac arweinydd
cyflogadwyedd yr Ysgol
Mae Cronfa Bangor wedi rhoi'r cyfle i ni reoli amrywiaeth o gyfleoedd i fyfyrwyr ac i wella'r profiad dysgu. Mae gennym lu o syniadau rydym yn gweithio i'w gwireddu, ac mae'r gefnogaeth wedi bod yn hollbwysig wrth wneud y rhain yn bosibl.
Sumaya Raihan, myfyriwr Sŵoleg sydd ar ei bedwaredd flwyddyn
Diolch i haelioni anhygoel ein cyn-fyfyrwyr, mae Cronfa Bangor yn parhau i yrru newid ystyrlon. Mae eu cyfraniadau'n grymuso myfyrwyr yn uniongyrchol, gan gynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau hanfodol — yn enwedig y sgiliau hynny sy'n gwella cyflogadwyedd a llwyddiant yn y dyfodol.
Persida Chung, Swyddog Datblygu