Astudiaethau Ôl-raddedig y Coleg Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas

YMCHWIL ÔL-RADDEDIG

Yn gweddnewid eich potensial...

Fel myfyriwr PhD yng CCDGC byddwch yn cael eich goruchwylio gan ysgolheigion egnïol a manwl y mae eu hymchwil wedi ei gydnabod i fod gyda'r gorau yn y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014.

Rydym yn cynnig nifer helaeth o raddau ôl-radd dysgu ac ymchwil. Fel aelod o Ysgol Graddedigion y Coleg bydd gennych hefyd fynediad at ystod eang o gyfleoedd i'ch datblygu eich hunan fel ymchwilydd, trafod eich syniadau gyda myfyrwyr PhD eraill a staff a chael eich mentora gan academyddion profiadol.

Datblygu ôl-raddedigion galluog a gwybodus…

Un o brif amcanion ein rhaglenni ôl-radd yw datblygu ôl-raddedigion galluog a gwybodus ac i ddarparu cefnogaeth drwy gydol eu hastudiaethau.

Fel eich bod yn gwneud y gorau o'r cyfleoedd sydd ar gael ichi, mae Ysgol Graddedigion y Coleg yn argymell eich bod yn mynd i Ddiwrnod Cynefino Ysgol Graddedigion CCDGC a gynhelir yn ystod yr Wythnos Groeso.

Diben y digwyddiad yw eich croesawu'n gynnes i gymuned ymchwil y Coleg, a'ch arwain drwy'r cyfleoedd cyffrous sydd i'w cael wrth astudio mewn prifysgol yng Nghymru a rhoi gwybod ichi am y cyfleusterau a'r gefnogaeth sydd ar gael ichi. Cewch gyfle hefyd i gwrdd â'r Dirprwy Is-ganghellor dros Fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor, Cyfarwyddwr Ymchwil Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas a Chyfarwyddwr yr Ysgol Graddedigion, yn ogystal ag aelodau allweddol eraill o Brifysgol Bangor.

Mae eich Tîm Goruchwylio, Cyfarwyddwr Astudiaethau Graddedig eich Ysgol a'r staff yn Ysgol Graddedigion Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas i gyd yn ysgolheigion ac yn staff cefnogi profiadol y gallwch ofyn am gyngor ganddynt ar unrhyw adeg yn ystod eich astudiaethau gyda ni. I gael gwybodaeth am eu gwahanol swyddogaethau a'u cylchoedd gorchwyl, edrychwch yn Llawlyfr Myfyrwyr Ôl-radd Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas.

Myfyrwyr yn astudio gyda'i gilydd

Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes Ymchwil Ôl-raddedig

Llawlyfr

Yn y Llawlyfr hwn cewch wybodaeth am eich Rhaglen Datblygu PhD, cysylltiadau, gwybodaeth am lleoedd astudio, eich cymuned, eich llais myfyriwr a cyfleoedd cyllid.

Ysgol Ddoethurol

Mae Ysgol Ddoethurol Prifysgol Bangor hefyd yn darparu cyfleoedd hyfforddiant a datblygu i fyfyriwr ôl-radd ymchwil.

Eisiau rhagor o wybodaeth?

Os dymunwch rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, yr Ysgol Graddedigion neu unrhyw agwedd arall o astudio cyrsiau ôl- raddedig yng CCDGC, yna cysylltwch â ni:

Ymholiadau Derbyniadau

Mrs Sian Williams
Ffôn: +44 (0) 1248 382118
Ebost: pgadmissionscah@bangor.ac.uk

Ymholiadau – Myfyrwyr presennol

Ebost: postgradcah@bangor.ac.uk

 

 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?