Mae Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes yn dwyn ynghyd ystod o ddisgyblaethau academaidd cysylltiedig mewn tair Ysgol Academaidd i gyflwyno cyrsiau ac ymchwil o'r ansawdd uchaf ac mae hefyd yn gartref i'r Ganolfan Iaith Saesneg i Fyfyrwyr Tramor (ELCOS), gan ddarparu cyrsiau iaith Saesneg a sgiliau astudio i fyfyrwyr rhyngwladol ym Mhrifysgol Bangor.
Ysgolion Academaidd
Mae ein canolfannau ymchwil yn darparu cyfleoedd i staff a myfyrwyr ymchwil, ac yn darparu sylfaen i'n rhaglenni trwy ddysgu i ôl-raddedigion. Gyda chyfadran gyfunol gydag oddeutu 100 o staff rydym hefyd yn gallu darparu cefnogaeth bersonol ragorol, sy'n rhywbeth mae Bangor yn gydnabyddedig amdano yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.