Rydym yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr dawnus astudio gyda ni i wneud graddau ymchwil ôl-radd mewn economeg iechyd ac astudiaethau cysylltiedig. Rydym yn cynnig PhD neu MScRes (Meistr trwy Ymchwil) mewn Economeg Iechyd, Ffarmacoeconomeg, Gwyddorau Meddygol ac Economeg Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol. Gall y rhain fod yn llawn-amser neu’n rhan-amser.
Hysbysir ysgoloriaethau ymchwil PhD a ariennir yn llawn yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae ein rhaglenni Meistr drwy Ymchwil yn boblogaidd gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y DU ac yn rhyngwladol sy’n dymuno gwneud gwaith ymchwil sy’n cyd-fynd â’u diddordebau clinigol ac o’u gweithle.
Ymholiadau uniongyrchol yn ymwneud ag economeg iechyd cyhoeddus i'r Athro Rhiannon Tudor Edwards r.t.edwards@bangor.ac.uk
Ymholiadau uniongyrchol yn ymwneud â ffarmaceconomeg i'r Athro Dyfrig Hughes d.a.hughes@bangor.ac.uk.